Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

60


I gasglu, heb dyrfu dig
Na dadwrdd, -aur nodedig.

Perffaith restr o'th onestrwydd - dderbyniwyd,
Rodd arbenig sicrwydd
It' weithio'n iawn, mewn llawn llwydd

A dewr ymgais di-dramgwydd.
Daethost yn ôl o'th deithiau yn gawraidd
Hyd y geirwon dònau ,
I Faldwyn dy glirwyn glau
Hoff, anwyl - hen gyffiniau.

Drwy wych odiaeth ymdrechiadau - hwyliaist
Dy helaeth gasgliadau,
Yn lle rh'oi gwarth i Benarth bau,
Diwallaist dy ddiadellau.

Diarchar fu dy orchwyl,-ïe gwell
Nag a allid ddisgwyl ;
Ti gai bellach, hawddach hwyl,
Fy llonwych gyfaill anwyl.

Llawn achos llawenychu — a gafwyd,

A gwiwfwyn ddyrchafu
Mawl coedd, fod y temlau cu

A'u dyled wedi' dalu !

Sarah gain , un o ser Gwynedd-gu-ferch ,
A gefaist yn gydwedd ;
Myg alaf ac ymgeledd
Iti boed hyd at y bedd.