Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
64
Heddyw i lygaid tanbaid dyn
Mae 'i harddwch megys murddyn !
Y bore'r oedd heb arwyddion - alaeth
I'w weled gan ddynion ;
O grochwyllt dân a gwreichion,
Tu fewn y lle, gwnaent fyw'n llon.
Am ddeuddeg bu ymddiddan - fod arwydd
O doriad fflam allan ;
Gwelwyd y plasdý gwiwlan
Cyn wyth yn danllwyth o dân !!
ENWAU DYNION .
Rhys, Rhisiart, Siarls, a Rysel,-Sion , Morris,
Owen, Meurig, Daniel,
Huw, Emwnt, Simwnt, Samwel,
Sem , Cam , Enos, Bos, a Bel.
Dan, Lewis, Ellis, a William ,-Meseg ,
No', Moses, ac Abram ;
>
Lot, Levi, Harri, Hiram ,
Mark, Luc, Io’n, Himon, a Ham .
Grace, Marged, Sioned, a Sian ,-a Gainor,
Mair, Ruth , Gwen a Susan ;
Ails, Martha, Sara, Seirian ,
Mallt, Sibil, Gwerfil, ac Ann.
1