CALEDI'R AMSERAU ,
Yn 1847 .
Gwasgedig derfysgiadau - hyll, anwar
Sy'n llenwi ’n gororau ;
Blaendoriad o'r blinderau
Dan ser sydd gwedi nesau.
Blwyddyn od, hynod yw hon - yn Mrydain,
Mawr ydyw'r trallodion ;
0 ! mòr orddwys mae'r 'Werddon .
Dan aml erchyll, dywyll dòn.
Angau gawr sy'n mawr ymwrio - 'n llewaidd,
A llawer yn syrthio
Drwy ing i gleidir ango'
Ar frys, yn mhob cwr o'r fro .
Diau fod ein pechodau — dig'wilydd
Yn galw am flinderau ;
Drylliedig gan drallodau — yw canoedd ;
Gwasgu miloedd mae gwgus gymylau.
Yn awr yw'r amser i ni-gâd ddiffrwyth
Gyd -ddeffro heb oedi,
Ac addas arfer gweddi
Ger bron Duw Ion raslon Ri .
Diwygiad drwy'r wlad a ledo,—'n bybyr
Boed i pawb weddio ;
Duw Ior nid yw am daro — 'r trueiniaid
O gywir enaid wrth ei air a gryno ,
F 2
Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/67
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
