Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
CWRW Y BALA .
1803 .
Boliad o gwrw y Bala — mae'n burion
Mewn barug ac eira ;
Ond gwell yn siwr yw'r dwr da
Rhad , iachus sy'n Rhyducha '.
I'R EIRA .
Ar yr Aran sai'r eira — fe wyddir
Nes darfyddo'r gauaf ;
Os y gwanwyn ddisgyna
Fe saif bron hyd hinon haf.
ENGLYNION
I ofyn Cwmpas i HUMPHREY ELLIS, Göf,
Gellilydan, ger Maentwrog.
I Hwmphrau, gorau gwron ,—drwy gariad
'Rwy'n gyru'n heddychlon
Gân o glod — hynod yw hon
I'th anerch mewn iaith union .
Gôf ydwyt uwchlaw'th gyfoedion -- ethol
Am wneuthur eirf llyfnion,
Gwisgi a lluni hwy'n llon
Wr enwog, ar yr einion .