Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

67

Gwnei nerthol drosol - gwnei dresi - eurfyg,
Gwnei arfau i'r seiri ;
Yn mysg cant, meddant i mi,
Ni bu d'ail am bedoli .

Fy nyben dàn fwyn obaith — yn d'anerch
A doniau anmherffaith ,
Mòr hyf, yw deisyf ar daith
Rhodd genyt o'th rwydd geinwaith .

Y rhodd wy'n geisio ar hynt – o 'wyllys
I wella fy helynt,
Yw " cwmpas” dan werth can'punt,
Gwerth dau o'r rhai gorau gynt.

Ei gymal fo'n dal yn dyn - heb wegian,
A'i bigau'n ddur dillyn ;
Cân newydd gelfydd, of gwyn ,
Gwiw odiaeth , a gei wedyn.

PSALM CXLVIII ,
Wedi ei throi ar fesur arall gan y diweddar
Barchedig ELLIS WYNNE, o'r Lâs Ynys.
O molwch yr Arglwydd, o'r nef wèn lawen lu,
Clodforwch E'n unswydd, holl fro'r uchelder fry ;
Angylion glan
Molienwch Ef
Holl luoedd Nef
O fawr i fân .