Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGDRAITH

O bob dawn radlawn a roes
Yr Ion, yn gysur einioes,
Hynottaf peth yn natur,
Yw mwyn waith bardd mewn iaith bur.
D. Ionawr.


YMFFROSTIA y cryf yn ei nerth, y cybydd yn ei gyfoeth, a'r Bardd yn ei waith. Diflanodd nerth y cawr cad arnaf—bu y goludog farw; ond y mae ambell Fardd er iddo farw " yn llefaru etto.' Adeiladwyd cof golofnau gorwychion i gofio am ddewrder llyngeswyr a maeslywyddion, ar ol iddynt feirw, rhag i'w henwau fyned i dir anghof. Gwelodd Ardalydd Mon a Duc Wellington eu cofgolofnau wedi eu gorphen gan ddwylaw eraill; a dyma MEURIG EBRILL wedi byw i weled y maen olaf yn cael ei osod ganddo ef ei hun, i orphen ei gof—golofn yntau, yr hon a hyderwn a fydd yn sefyll "

"Tra bo'r iaith rydd
A Gwalia wrth eu gilydd."


Darfu i'r croesaw gwresog a dderbyniodd yr hen fardd oddiwrth dderbynwyr y rhan gyntaf o "DDILIAU MEIRION," a chymelliad calonog llu o gyfeillion ei ddwyn i benderfynu cyhoeddi yr "Ail Ran," yr hon sydd yn awr o'u blaen. Tybiwn fod yn hon bethau a foddlona bron bob dosparth o hoffwyr barddoniaeth, ond yn unig y rhai na hoffant ond yr hyn a wnant eu hunain. Canfyddir oddiwrth y cyfansoddiadau mai y Mesurau Caethion ydyw prif hoffder yr awdwr; ac nad ydyw gwneuthur englyn yn fwy poen iddo nag anadlu. Etto, cyfansoddodd lawer o ddarnau gorchestol yn y Mesurau Rhyddion; y mae amryw o honynt wedi eu rhoddi i fewn yma, ac aeth llawer o'i "gerddi boreuol" i dir anghof. Hyderwn y ca y rhan hon etto groesawiad calonog fel y llall, ac na foddlona yr un Cymro i fod hebddi gan y cynygir hi am swllt.