Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
69
Brenhinoedd daear gron, a'r bobloedd oll yn nghyd,
Pob t’wysog sy ar hon, holl swyddwyr, barnwyr byd ;
Pob llange call yw,
Pob morwyn glau,
Pob hen, pob Iau
Addolwch Dduw.
Can's tra rhagorol yw , ei enw unig Ef,
Ei ardderchawgrwydd gwiw , sy ymhell uwch dae'r a
nef ;
Can's codi y bydd
Corn, nerth a pharch
I'w bobl, a'u harch
A glyw bob dydd.
Dadseinia ei holl saint ar led ei lawnglod lân,
Dadganant ei fawr fraint, blant Israel fawr a mân ;
A phawb â'n nês
I wneud a bair
Ef yn ei air
I'w lwyddfawr lês.
GLORIA PATRI .
Rhown oll i'r Tri yn Un, sy'n tystiolaethu fry,
Y Tad a'r Mab cyttun, a'r Yspryd cariad cry,
Fel y bu erioed
Mae'n awr 'r un wedd
Bydd fyth drwy hedd,
Dra haeddawl glod — Amen .