Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


Ond cedyrn mae Duw'n codi,
Rhai gweithgar i freingar fri.

William sy'n fawr ei alwad - gan wiwgu
Enwogion Llynlleifiad ;
Fe'i gwnant cyn hir bernir heb wâd
Yno'n faer uniawn fwriad .

Ei weithwyr sy'n rhif wyth -ddeg — o gawri
Rhagorol a glan-deg ;
Curant nes rhoi pob careg,
A llun da yn ei lle'n deg.

Chwimwth ar ei orchymyn - y gweithiant
Yn goethaidd a dichlyn ;
Diorfod hyd ei derfyn,

Wrth ei fodd, hardd waith a fŷn.
Torant ddyfnion gwterydd — ugeiniau,
Trwy ganol heolydd ;
Trosolio tra dalio'r dydd
Eu gwelir gyda'u gilydd .
Ei lais, a chodiad ei law - bair iddynt

Ebrwyddawl gydweithiaw ;
Cedyrn eu ceir yn cydiaw
' N bur rhwydd ymhob caib a rhaw .

Bydded rhwydd, wiw -lwydd i William - gyrhaedd
Hawddgarwch fel Abram ;
Dawnus foneddwr dinam

Fyddo lle cerddo bob cam .