Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto



AMRYW O EMYNAU AR WAHANOL
DESTYNAU .

Edrych ar Grist yw dyled dyn,

A'i gyflawn ddilyn hefyd ;
Caiff pawb a ganlyn ar ei ol

Feddianu bythol wynfyd.
SALM XXVII. 4 .

Un peth a ddeisyfais gan Dduw yn llawn sel,,
A hyny yn benaf a geisiaf heb gel ;

Cael trigo yn Salem tra byddwyf fi byw
I edrych ar hawddgar brydferthwch fy Nuw .
DIARHEBION III. 29, &c.

Na feddwl ddrwg mewn llidiog wyn ,
Yn erbyn dy gymydog,
Ag yntau' n trigo ger dy fron
Yn dirion a diwyrog.

I ymryson byth a neb na ddos
Heb achos fel gwallgofddyn ,
Os na wnaeth yntau ddrwg unwedd,
Neu gamwedd yn dy erbyn.

Na chenfigena wrth wr traws,
Bydd fwyn a hynaws hefyd ;
Ond na choledda un o'i gerth
Weithredoedd anferth ynfyd.

Fe gyfrif Duw yn ffiaidd iawn
Y rhai sy'n llawn o drawsder ;