Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bellach, gellir cael gwaith y bardd ynghyd a'i ddarlun, am dri swllt, y rhai all fod yn gymdeithion anwylaidd i filoedd ag sydd yn meddu calon i gym deithasu â gwrthrychau teilwng o serch. Dymunwn i'r hen fardd gael treulio y gweddill o'i oes mewn dedwyddwch, nes ei gelwir ar ddiwedd ei yrfa ddaearol i Ardal lawn o aur delynau."

GUTYN EBRILL.
Brithdir, Mawrth, 1854.
ANERCHIAD

I MEURIG EBRILL AR YMDDANGOSIAD

YR AIL RAN ODDILIAU MEIRION."

Meurig y diddig fardd doeth, dieithrad
Athraw mawr a hyddoeth;
Sain o urddas synwyrddoeth,
Yw ei gân a'i awen goeth.

Rhoi geiriau o ragorion—yn ei waith
A wna ef mor gyson;
A llythreniad llywiad llon,
Braidd oll i'w bur ddiwyllion.

Yn ei henaint mae'n ynill—enw mawr
Yn Meirion i'w esill;
Y beirddion bawb rhoddwn bill,
Er gwobrwy i Meurig Ebrill.