84
Dangosodd mewn clirfodd clau — yn berffaith
A'i gywrain beirianwaith ger ein bronau .
Nododd gylchawg drefniadau — Sadwrn
A'i syw-deg fodrwyau ,
A chedyrn amgylchiadau
Mawrth, Mercher, Gwener, ac Iau.
ENGLYNION
I Mr. J. J. PHILLIPS, mab G. B. PHILLIPS, Ysw.,
Surgeon, Tywyn , Meirionydd.
Sion Phillips nid oes un ffelach - iw gael
A golwg brydferthach ;
P'le tàn nen ceir bachgen bach,
O ddull iawn ei ddillynach ?
Dir
yw , na welwyd erioed — un llenydd
Yn llawnach o'i faboed ;
Nid aeth pan onid wyth-oed
O'i flaen ef, ddyn cyflawn oed.
Ei fawr awen foreuawl - -аa'i hurdda
A harddwch rhyfeddawl ;
Darlithydd dewr helaethawl ,
Rhwydd yw fe, da’r haeddai fawl.
Yn ddoctor tra rhagorol - trydd allan
Trwy ddullwedd gorchestol ;
Meddu cymwysder meiddiol
Y mae yn awr, heb ddim yn ol .