Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

86



Fe gaw'd iawn cyfaddas dros ddynion oedd ddiras ,
Mae'n eiriol mewn urddas yn ninas y nef.

Mawr gariad diderfyn oedd geni egynin ,

O wyryf lan forwyn yn wreiddyn y wraig ;
I wared hil ddynol oedd iddo'n elynol,
A sigo pen diafol hen ddrygsiol y ddraig ;

Ffordd rad agorodd o'r byd i'r nefoedd,
Iawn i'r ddeddf roddodd o'i wirfodd â'i waed ;
Maddeuant llawn hollol i'r enaid crediniol,

Drwy'r Iesu'r Oen grasol digonol a gaed.
Yr Iesu pur Rosyn oddefodd yn addfwyn,
Erchylldod pob gelyn tra chyndyn a chas ;
Ei wawdio a'i wadu mewn gwall a'i fflangellu ,

Ynghyd a'i fradychu a'i werthu gan was ;

Seilo groeshoeliwyd, ein dyled dalwyd ,
Mae gobaith bywyd, gorphenwyd gwir ffydd ;
ewn bedd y gorweddodd, y trydydd dydd cododd,
Ac angau orchfygodd, fe'n rhoddodd ni'n rhydd.
Rhown offrwm calonog i'n Llywydd galluog,

Ein Prynwr trugarog, Eneiniog' y nef ;
I'w deyrnas boed llwyddiant, i'w enw gogoniant,
A'r saint a gyd -ganant, llon unant eu llef.
Hosana seiniwn, i'r Drindod canwn ,
Ti Dduw aa folwn , ti barchwn yn ben ;

I'r Iesu sy' ar orsedd y nef mewn tangnefedd,
B’o'r parch a'r anrhydedd a'r mawredd, Amen .