Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

88



Syrthiasant yn awr o lwyrfryd i lawr,
I ganu gogoniant a moliant Duw mawr.
O gariad anfeidrawl attegawl y Tad ,
Ei Fab a ddanfonodd fe'i rhoddodd yn rhad ,
Yn iawn dros bechodau a beiau y byd,

A hyny drwy ryfedd drugaredd i gyd ;
Dyoddefodd Mab Duw ar ran dynolryw ,

Hyd angau dychrynllyd gur enbyd gwir yw ;
Cadd lawer trom loes nes marw ar y groes ,

Boddlonrwydd i'r gyfraith ar unwaith a roes.

Er maint a ddyoddefodd fe sigodd siol serth
Y diafol uffernol erch hudol a cherth ;

Efe yw'r rhyfelwr, concwerwr ei caed,

Gan ymdaith ar gyhoedd a'i wisgoedd yn waed ;
Cyfododd o'i fedd yn wiwlon ei wedd,

Esgynodd i'r gwynfyd yn hyfryd mewn hedd :
Llywodraeth y mor a'r tir a'i ystôr,

A fydd yn dragywydd ar ysgwydd yr Ior.

Cydganed dynolion yn gyson i gyd ,
Ogoniant i brynwr a barnwr y byd ;
Yn hwn mae'i bechadur wir gysur i'w gael,

Mae'n rhoi o'i drugaredd ymgeledd i'r gwael ;
Mae'n galw o'r nef, gwrandawer ei lêf,
Ar bawb frysio dyfod i gymod âg ef :
Pwy bynag a ddel , mor sicred a'r sel,
Caiff gyflawn dderbyniad drwy gariad heb gel.