Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

91


Trwy arfaeth o'i wirfodd,

Dros bawb a ragwelodd i gyd ;
A rhai a ragwelodd

Ior glan, a ragluniodd,

Fe’u galwodd ymg'leddodd hwy'n glir ;
Rhai hefyd a alwodd
Fe a'u cyfiawnhaodd

Ac a'u gogoneddodd yn wir.
Mae llais cyffredinol

Efengyl dragwyddol
Yn galw mewn rheol bob rhai ;

Mae'n galw'r trwm lwythog
Ar dir a'r blinderog

Dan deimlad yn bwyllog o'u bai ;
Mae'n dangos dihangfa
Yn nghlwyfau'r Meseia
I'r gwaetha a'r brynta gerbron ;

Trwy ymorffwys ar fawredd
Yr Iawn a'i wir rinwedd

Lachheir eu holl lesgedd yn llon ;
Llais anwrthwynebol

Yr Ysbryd tragwyddol
Anfeidrol a nerthol o'r nef,
Fo'n deffro myrddiynau
Gan agor calonau
I ddal ar ei eiriau pur ef.
Crist Iesu, mae'n eglur,

Yw Ceidwad pechadur,
Rhyfeddwn ei lafur a'i loes ;

Er poeri yn ei wyneb