ENGLYNION
I goffa JANE Pugh, merch fechan Mr. a Mrs. Pugh,
Dol-y-serau -uchaf, ger Dolgellau. Bu farw
Rhagfyr y 10, 1853 , yn 5ml. oed.
Soriant yn Nolyserau ,--- hynodwyd
Gan genhadon angau ;
Eu rhwysg sydd yno'n parhau,
1
Blin addef drwy'r blynyddau.
Ow ! tair Sian seirian siriol,-a gariwyd
I'r gweryd olynol ;
Ni ddaw 'run o'r tair dymunol,
Atyn' hwy byth eto’n ol.
Addurn y Sian ddiwedda ,-a nodir
Yn enwedig yma ;
Ni chaed llenreg ddoeth -deg dda,
Burach er oes Debora .
Ystyrid cymwysderau - ei mebyd,
Yn mhob golygiadau,
Yn dreiddgar glodgar i glau
Ddwys gyrhaedd y ddysg oreu.
Pwy erioed yn ei hoedran — a dreiddiodd
Drwy addysg mor fuan ;
Galarir, synir fod Sian
Gu rywiog yn y graian.
Trawanwyd ei rhieni - â hiraeth
O herwydd ei cholli ;
Gan mai'r bedd i'w hanedd hi ,
Cwynant yn fawr eu cyni.
Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/97
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
