Tudalen:Diliau Meirion Cyf II.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

ENGLYNION

Ar briodas y Parch . J. RIDGE, a Miss E. WILLIAMS,
Mawrth 8, 1828 .

Pur ydyw stad priodas, -- ddihalog
Dda hylwydd gymdeithas ;
Y ddeuddyn mewn modd addas, Sy'n caru'r Iesu a'i ras .

Tawelwch fydd yn y teulu - a golud
Yn gwiw -lwys gynhyddu ;
Mewn gwastad agweddiad gu,
Gwres dinam heb groes dynu.

Boed i'r wraig mewn bywyd o rin ,-garu
Ei gwr yn gysefin ;
Boed y gwr fel bwyd a gwin ,
O gysur i'w wraig iesin .
ENGLYNION

I dair merch Mr. a Mrs. Jones, Penbryn, Dolgellau.
Margred a Gwen, hawdd eu henwi, —ag Ann
Rywiog eneth wisgi,
Tair chwaer hawddgar freingar fri,
Rhai anwyl i'w rhieni.

Tawel rianod diwair,-gwiw hoffus
Heb gaffael dim anair ;
Da gallwych a digellwair
Wyryfon tirion yw'r tair.

Llwydd iddynt dros eu holl ddyddiau — i fyw
Yn fawr eu rhinweddau ;

Mewn hedd pob un yn mwynhau,
Diddanwch a rhad ddoniau .