Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR AFON FAWR

PAN oeddwn yn blentyn yn nhref Llanrwst, ar lan yr afon Gonwy, o dan enw arall yr adnabyddem yr afon. "Yr Afon Fawr" oedd i ni, a rheswm da paham, gan fod bywyd trigolion y dref yn dibynnu cymaint arni, a masnach y dyffryn yn symud ar ei hyd. Yng nghwrs y blynyddoedd newidiwyd perthynas yr hen afon â'r dref ac â'r dyffryn gan ddarganfyddiadau a diwydiannau newydd. Yn ôl pob arwydd bydd cyfnewidiadau mwy fyth yn y dyfodol, felly teimlaf ar fy nghalon i ysgrifennu amdani fel yr adwaenwn hi yn yr hen ddyddiau.

Yn nyddiau fy mhlentyndod "'R Afon Fawr" oedd yn wir; hi oedd nod pob afon fach, pob pistyll, pob rhaeadr a fyddai yn ymdywallt dros lethrau'r clogwyni. Edmygem y rhacadrau am eu harddwch, a'u berw, a'u miwsig, ac am eu cyfraniad at lawnder yr Afon Fawr. Mae'n wir y byddai rhai ohonynt, ar eu ffordd i'r afon, yn troi olwyn ffatri, megis Trefriw, neu hen ffatri wlân Ddolgarrog, ond heb gladdu'r dŵr o'n golwg. Ceid gweld y cafnau agored yn cludo llifeiriant o'r dŵr dros yr olwyn a'i fwrw yn ôl i'r rhaeadr-y cyfan yn harddwch i'r llygaid ac yn fiwsig i'r glust.

Gwelir heddiw argoelion y bydd i ofyniadau oes y peiriant a'r trydan gaethiwo llawer o'r rhaeadrau, a'r nentydd a'r pistyll, ac y bydd i lawer o'r dyfroedd a adwaenwn ac a garwn gael eu gorchuddio a'u hagru. Pwy heddiw fuasai'n credu mor hyfryd o hardd, o edrych ar ddarlun ohono gan mlynedd yn ôl, oedd Cwm Rhondda, gyda'r coed a'r glesni a'r dŵr grisialaidd? Felly, gadewch i mi sôn am yr hen Afon Fawr, ei hafonydd bach, ei rhaeadrau a'r llynnoedd yn y cefndir, rhag i mi feddwl am yr hyn a fydd.