chastanwydd yn ogystal â'r larwydd a'r pinwydd. Yn yr Hydref gwelid y llethrau fel pe bai'r dail wedi eu lliwio'n felyn, yn goch, yn frown, a ffrwyth y coed criafol yn llosgi yn erbyn gwyrdd tywyll y pinwydd mawr.
Gwelir y llyn eto rhyw ddydd mae'n siwr mewn ffrâm werdd, a'r llethrau'n goed i gyd, ond undonog fydd y darlun; cynllun dyn ac nid cynllun natur fydd. Mae'n wir mai cynllun dyn adeg rhyfell arall—rhyfel Napoleon—fu'n gyfrifol am blannu coed derw. Pasiwyd deddf y pryd hynny i orfodi perchnogion tir i blannu coed derw, am y rheswm, meddid, y byddai angen ar Brydain yn y dyfodol pell, am lawnder o goed derw at wneud llongau rhyfel. Ond 'roedd digonedd o le i Natur blannu rhyngddynt.
Gwahanol iawn oedd Llyn Crafnant. 'Roedd y llyn yn gyrchfa i lawer o ymwelwyr o Drefriw ac o Lanrwst. Ni fûm yno pan oeddwn yn blentyn ond pan ddychwelais i Lanrwst i fyw yn wraig ifanc byddwn yn hoff iawn o dreulio hanner diwrnod yno. Ystyriwn y ffordd i fyny o Drefriw yn un ramantus iawn. Dirwyn y ffordd ar yr ochr dde i Gwm Crafnant. Gorchuddiwyd yr afon sy'n ymdroelli trwy waelod y Cwm gan y coed tew ar hyd yr ochr serth. Byddem bron yng nghyrraedd y llyn cyn i'r coed ddarfod a byddem wedyn ynghanol tir mynydd moel a dim ond grug a marchredyn o bobtu. Ni flniwn fyth ar yr olwg gyntaf o'r llyn, mewn tro sydyn yn y ffordd. 'Roedd yn union fel pe bai dalen o lyfr wedi ei throi a darlun ardderchog yn dod i'r golwg-y llyn fel darn o arian ac ambell gwch yn hwylio'n dawel ar ei wyneb; ffermdy bach gwyn ar ochr y llyn a choed o'i gwmpas. Dyma lle y byddai te i'w gael. Ffermdy lled fychan oedd. Nid oedd digon o le yn y gegin i osod byrddau te ac ar y tân oedd yr unig le i ferwi dŵr. Grât lydan hen ffasiwn oedd yno a phentan mawr ar bob ochr.