Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar un ochr 'roedd wrn mawr a thap iddo i ollwng y dŵr poeth, ac ar yr ochr arall y tegell mwyaf a welais erioed. Coed a losgid gan mwyaf; 'roedd llawnder o goed tân yn yr ardal. Y tu ôl i'r gegin mewn ystafell fechan byddai dwy neu dair o ferched yn brysur wrthi'n torri plateidiau o fara 'menyn ac yn golchi llestri. Felly, yn yr awyr agored o dan y coed y caem de, ar y lawnt hir o flaen y tŷ. Gosodid yno bedwar neu bump o fyrddau hir a llian gwyn drostynt, a meinciau o bobtu.

Cedwid y fferm gan frawd a chwaer. Bywient yno pan gaed y llyn a'r tir o'i gwmpas yn anrheg i dref Llanrwst gan y bonheddwr James o Ddyffryn Aur, Llanrwst, ac yr oedd caniatâd i'r ddau fyw yn y ffermdy ar hyd eu hoes os mynnent. Cofiaf Miss Williams fel y byddai yn hwylio'r te, ei gwallt gwyn fel arian a'i hwyneb siriol, yn mynd a dod o gylch y byrddau: "Ydi'r te yn ddigon cryf, fuasech chi'n leicio rhagor o de yn y tebot?" "Gymerwch chi ragor o fara brith, neu fara Crafnant?" "Roedd hwn yn fara spesial iawn a ddylinai Miss Williams ei hun. Credaf fod llefrith a wyau ynddo, ac hwyrach, ymenyn. Beth bynnag am hynny 'roedd yn flasus dros ben. Wyth geiniog fyddai pris y te, gyda chymaint o fara brith, bara Crafnant a jam ag a ddymunem. Yn wir ni fyddai Miss Williams yn tybied i ni fwyta hanner digon. Hanner pris fyddai i blant, er y byddent yn bwyta ddwywaith mwy na'r rhai hŷn!

Credaf fod Miss Williams yn hŷn o flynyddoedd na'i brawd. 'Roedd gwallt a locsyn y brawd yn ddu fel y frân. Cario dŵr o'r llyn ac edrych ar ôl y cychod oedd gwaith y brawd (a'r fferm fechan wrth gwrs). Eisteddai am hydion ar un o'r cychod i ddisgwyl cwsmer ac i synfyfyrio. Nid wy'n meddwl fod llawer o awydd twtio ynddo a barnu wrth y dail poethion a'r dail tafol a godai eu pennau ymhob cwr.