Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu cryn drafferth cael gafael ar gerbyd ar fyr rybudd a bu'n rhaid bodloni ar gerbyd digon anolygus. Cerbyd agored oedd, y sort a elwid yn basket car, â lle ynddo i rhyw dri bob ochr i eistedd gyferbyn â'i gilydd. Felly gwahoddodd Huw dri chyfaill i ddod ar y trip. Llanc pur ddwl oedd y gyrrwr ac ni wyddai fawr am yrru. Beth bynnag, er yr holl anawsterau cychwynnwyd yn dalog a phawb mewn hwyl dda.

Ar y daith i fyny i Grafnant 'roedd llecyn cul o'r ffordd heb na wal na chlawdd rhyngddo a'r dibyn. 'Roedd yn ofynnol i'r gyrrwr ofalu rhag nesáu'n rhy agos at yr ymyl. Gofalodd gadw pen y ceffyl rhag yr ymyl, ond ni feddyliodd gadw golwg ar yr olwyn ac yn sydyn llithrodd ochr chwith y cerbyd dros yr ymyl. Yn ffodus, tyfai'r coed mor agos i'r ymyl ac mor glos i'w gilydd fel iddynt gynnal y cerbyd i fyny a'i gadw rhag disgyn i waelod y cwm. Taflwyd un o'r cyfeillion i ganol y prysgwydd; cafodd un ohonynt ei hun yn eistedd ar gangen o goeden, hanner ffordd i fyny'r bôn. Huw yn unig a lithrodd rhywfodd rhwng y coed gan rolio i lawr am lathenni at droed coeden fawr. Ac yno gorweddai'n griddfan ac yn tuchan. Mynnai ei fod wedi ei anafu'n dost. "Hogia annwyl 'rwyf wedi cael damwain ofnadwy. Mae ar ben arnaf". Rhuthrasant i lawr ato mewn dychryn. "Oes gen ti boen garw Huw bach?" "Oes, ofnadwy", meddai, "Mae 'mherfedd i'n dechre dod allan. O be wna' i! Byddaf wedi marw ymhell cyn i ddoctor gyrraedd". ""Toes dim posib fod dy berfedd yn dod allan", meddai un. "O ydi yn wir, 'toes dim sy'n sicrach, 'rwyn ei deimlo'n llithro allan, ac mae poen difrifol arnaf". Edrychent mewn ofn a braw ar Huw, ac aeth un ohonynt, â thipyn llai o ofn na'r lleill, i geisio agor ei ddillad er mwyn gweld maint y dolur. Datododd ei gôt a'i wasgod a chododd ymyl ei grys yn wyliadwrus, ac yn sydyn