dechreuodd chwerthin—ha! ha! a daliodd i chwerthin nes i'r dagrau lifo. "Huw druan", meddai, "wyddost ti beth yw'r perfedd sy'n llithro allan? Dy fresus sydd wedi rhwygo!" Cododd Huw ar ei eistedd, ac yn wir felly 'roedd. A'r "boen difrifol?" Dim ond blaen main rhyw gangen wedi rhwygo ei drowsus o'r tu ôl ac yn ei bigo. Ynghanol y chwerthin mawr clywyd llais y wraig: "Huw fedra' i ddim codi". 'Roeddent wedi anghofio popeth amdani! Dyna lle yr oedd—brigyn wedi cydio'n dynn yn heyrn ei choes fel na allai symud. A'r syndod oedd na chafodd neb na briw na dolur; yr unig ddifrod oedd i fresus a throwsus Huw.
Bu blynyddoedd cyn i gyfeillion Huw beidio â'i gellwair am golli ei berfedd!
MYND I LUNDAIN
Un tro, bu i gynrychiolwyr o Gyngor Llanrwst fynd ar ryw achlysur i Lundain. 'Rwy'n tybied mai cwestiwn o gyfraith oedd, yn ymwneud â hawliau dŵr neu rhywbeth cyffelyb. Modd bynnag, ymysg y tystion 'roedd hen frawd o ffarmwr o gymdogaeth Cwm Crafnant—hen lanc o'r enw William. 'Roedd mynd ar daith i Lundain yn fentar fawr iawn i William. Nid wy'n meddwl iddo fod fawr pellach na Llanrwst o'r blaen.
Cafodd het a macintosh newydd sbon at y daith bwysig, ac er fod y facintosh yn llawer rhy laes iddo, yn cyrraedd bron at ei sodlau, teimlai'n ŵr bonheddig yn y ddiwyg newydd. Heblaw'r facintosh newydd cariai William barsel mewn papur llwyd, a phâr o slipars carped newydd ynddo. Dyma ei unig luggage. Gan nad oedd erioed wedi arfer gwisgo crys nos, cysgai yn ei grys gwlanen cyffredin. Wel, dyma'r cwmni'n cychwyn o Lanrwst. Bob tro y byddent yn symud o un trên i drên arall baglai traed William yn y facintosh laes nes i'r parsel papur llwyd