a'r slipars scrialu hyd y platfform, un yma ac un acw rhwng traed y teithwyr, er mawr ddifyrrwch iddynt.
Wedi cyrraedd Llundain (lletyent i gyd yn yr un gwesty), dyma ddechrau problemau William. Yr hyn a'i poenai'n fwy na dim oedd sut i ymddwyn amser pryd bwyd. Edrychai'n syn ar y rhes o gyllyll a ffyrc a llwyau ar y bwrdd o'i flaen "Beth andros wna' i â'r holl gelfi 'ma hogia?"
Methodd y cwmni'n lân â'i ddiddyfnu o'r arferiad o yfed ei de neu goffi o'r soser. Dyna fel yr oedd wedi arfer yfed ar hyd ei fywyd a methai â deall i ba bwrpas arall yr oedd y soser. Felly bu'n rhaid iddynt roi'r gorau i geisio ei ddarbwyllo, ac o'r soser yr yfodd William.
Er fod y tywydd yn hynod braf ar hyd eu arhosiad, gwrthododd William yn bendant fynd allan lathen heb ei facintosh a'r parsel papur llwyd o dan ei fraich.
Un o'i ddiddordebau mwyaf oedd gweld y ceffylau hardd ar hyd strydoedd Llundain. Sylwer mai oes y ceffylau oedd, pan nad oedd y car modur ond yn ei fabandod. Gan geffylau y tynnwyd y bwses. Nid oedd William erioed wedi gweld y fath geffylau o'r blaen, yn enwedig ceffylau hardd y bragdai a fyddai'n tynnu'r ceir hir a'u barilau cwrw. Y drwg oedd y mynnai sefyll yng nghanol y traffic i edmygu'r anifeiliaid "Diawch hogia, dyma i chi bâr o geffylau da". 'Roedd yn dda nad oedd William yn deall fawr o Saesneg neu buasai rhegfeydd y gyrrwyr, am iddo ddal y traffic i fyny, yn merwino ei glustiau.
Y noson olaf yn Llundain, ar ôl gorffen y gwaith, penderfynodd y cwmni fynd i'r Music Hall, Alhambra, a oedd mewn bri mawr yr adeg honno, un o'r rhai mwyaf yn Llundain. Y broblem fawr oedd—"Beth wnawn â William?" Gwyddent nad âi yr un o'i draed i'r fath le pe gwyddai ei natur. Eto, nid oeddent am ei adael ar ei ben