ei hun yn y gwesty. Teimlent yn gyfrifol amdano, gan na siaradai ond ychydig o Saesneg. O dan yr amgylchiadau penderfynwyd mynd â William i'w canlyn—doed a ddelai. Yr unig beth a wyddai William oedd ei fod yn mynd i ryw gyfarfod mawr.
Wedi cyrraedd yr Alhambra a mynd i mewn, edrychodd o'i gwmpas mewn syndod. Ni welodd erioed o'r blaen y fath wychder—galeri uwch ben galeri yn llawn o bobl—goleuadau ac addurniadau o bob lliw a llun. 'Roedd erbyn hyn wedi ei syfrdanu.
Tybiodd mai rhyw gymanfa fawr oedd i ddod, a gofynnodd i un o'r cyfeillion "Oes pregeth i fod?"
Toc, ar ôl i'r Gerddorfa diwnio a dechrau chwarae, cododd y llen. Beth a welai William ar y llwyfan ond llu o ferched a nemor ddim amdanynt ond paent yn dawnsio rhyw ddawns ryfedd. Ond, nid dawns a welodd William, ond rhes o ferched yn cicio eu coesau i fyny am yr uchaf. Dychrynodd weld y fath anfadrwydd. Trodd lygad llym ar ei gyfeillion a meddai "Hogia, 'rydach chi wedi dod â mi i uffern o le". Ac er gwaethaf pawb mynnodd fynd allan, ac allan yr aeth cyn gynted ac y gallai o'r fath le pechadurus. Yn ei frys, wrth fynd i fyny grisiau'r galeri at yr exit, baglodd ei draed yn y facintosh laes nes y syrthiodd ar ei bedwar a phawb yn edrych yn wgus ac yn gweiddi "ust" arno. Yn y godwm llithrodd y ddwy slipar ymhell rhwng traed y gwrandawyr a dyna lle 'roedd William ar ei grafangau yn ymbalfalu amdanynt. 'Roedd yn benderfynol nad âi allan hebddynt.
O'r diwedd llwyddodd i fynd allan, ef a'i barsel. Nid oedd yr un o'i gyfeillion wedi cynnig mynd gydag ef. 'Roeddent wedi talu am eu seddau ac am gael gwerth eu harian. Nid oedd gan William syniad i ba gyfeiriad i geisio'r gwesty ac nid oedd ganddo ddigon o Saesneg i