holi'r ffordd, felly 'doedd dim i'w wneud ond aros wrth drws i'r "hogiau" ddod allan.
Daeth plismon heibio. Gwelai olwg pur amheus ar William yn ei facintosh a'i barsel o dan ei fraich, ac yn sefyll fel post heb symud. "Move on please", meddai. Nid oedd gan William syniad beth oedd "move on". Gwelodd y plismon nad oedd yn deall a gwnaeth amnaid â'i ben a'i ddwylaw. Deallodd William yr iaith honno'n iawn ac aeth i fyny'r stryd am ychydig lathenni a phan oedd y plismon o'r golwg cerddodd yn ôl at y drws i wylio. Toc, daeth plismon arall heibio. Erbyn hyn 'roedd William yn deall ystyr "Move on", ac yn ufudd fel o'r blaen symudodd lathen neu ddwy i fyny'r stryd. Ar ôl hir aros daeth y cyfeillion allan a chymaint oedd ei falchder o'u gweld fel yr anghofiodd ei ddicter yn eu herbyn am ei fwrw i'r fath le.
Trannoeth, trodd y cwmni gefn ar y brifddinas i gychwyn tuag adref. Cyrhaeddodd William adref yn ddiogel, a'i facintosh a'r parsel papur llwyd. Bu'r rhyfeddodau a welodd yn Llundain yn destun siarad iddo am ei oes. Deuai "Pan oeddwn yn Llundain erstalwm" i'w sgwrs byth a hefyd, a'r rhyfeddodau'n tyfu fwyfwy wrth eu hail-adrodd. Ni chlywodd neb iddo achwyn am yr Alhambra a'r hyn a welodd yno. Synnwn i ddim mai'r unig ramant fu yn ei fywyd oedd mynd i Lundain, a synnwn i ddim chwaith nad oedd yr Alhambra, er gwaethaf ei fraw, yn rhan bwysig o'r rhamant. *** Ni fûm ond ychydig weithiau yn ymweld â llyn Cowlyd, gan ei fod ymhell o Lanrwst ac yn uchel yn y mynyddoedd, a'r dringo i fyny ar hyd ochr serth y mynydd rhwng Dolgarrog a Threfriw yn galed. Y tro diwethaf i mi ddringo i Gowlyd, 'roedd yn ddiwrnod poeth anarferol ac nid oedd cymaint â chysgod coeden ar y ffordd.