Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a llawer eraill. Aeth yr hen flaenor ato ar ddiwedd yr oedfa a gofynnodd iddo: "Dywed imi, am beth y buost yn caboli yn y pwlpud y bore yma?" Syllodd James Donne arno mewn syndod. "Caboli a ddywedsoch chi John Hughes?" "Ia, caboli a wnest a dim arall. Cofia os y byddi yn dod yma eto i bregethu rhaid iti bregethu fel y medr pawb dy ddeall ac nid pentyrru geiriau ar ei gilydd nad oes neb yn deall eu hystyr". Prin rhaid dweud i James Donne ddigio drwyddo draw wrth yr hen flaenor am feiddio ei ddwyn i gyfrif.

Clywais sôn am dro arall pan fu i'r hen flaenor bechu bron yn anfaddeuol am ei siarad plaen.

Pan 'roedd John Williams Brynsiencyn yn fachgen ifanc yn dechrau pregethu câi aml gyhoeddiad i'r Gaerwen. Tomos Owen oedd y dechreuwr canu yn y capel ac yr oedd gan John Hughes feddwl uchel iawn ohono fel dyn ac fel Cristion. Dyn nerfus iawn oedd Tomos Owen a phan fyddai ei nerfau'n ddrwg iawn gweithiai ei wyneb ymhob siap yn ddiarwybod iddo ei hun. 'Roedd ganddo gôr da yn y capel ac aeth un tro â'r côr i gystadlu i Frynsiencyn i gyfarfod cystadleuol. 'Roedd yn nerfus dros ben ar y llwyfan a'i wyneb druan yn troi ymhob siap ac ystum.

Ni wyddai John Williams ddim am Tomos Owen. Ni wyddai ddim am natur yr ystumiau.

'Roeddent yn ymddangos yn ysmala iawn iddo, a chwarddodd am ei ben. Pe buasai'n gwybod yr amgylchiadau ni fuasai ar gyfrif yn y byd yn gwawdio. Beth bynnag am hynny, daeth y peth i glustiau John Hughes, a'r tro wedyn y daeth John Williams i'r Gaerwen aeth John Hughes ato ar ddiwedd y gwasanaeth ac meddai wrtho: "Clywais dy fod wedi chwerthin am ben Tomos Owen yn y Bryn acw. Cofia di 'machgen i dy fod wedi gwneud gwawd o ddyn gwell o lawer na thi dy hun". Digiodd John Williams