sylweddol fel nad oedd prinder o ymgeiswyr a byddai swm da o arian wrth gefn. Cofiaf weld Caerwennydd yn ennill y gadair. 'Roedd plât arian wedi ei osod ar gefn y gadair a'r manylion wedi eu hargraffu arno. Cofiaf Gaerwennydd yn eistedd yn y gadair, ac yn ei ddull ffraeth yn dweud "Wel, beth bynnag a ddigwydd imi gallaf ddweud o hyn allan fod gen i arian wrth gefn".
Oherwydd llwyddiant eithriadol Eisteddfod y Pasg, yn eu brwdfrydedd penderfynodd aelodau'r Pwyllgor ail gychwyn yn y Gaerwen Eisteddfod Gadeiriol Môn. Am ryw reswm nid oedd wedi ei chynnal yn yr Ynys am rai blynyddoedd.
Ehangwyd y pwyllgor i gynnwys cynrychiolaeth o'r ardaloedd o gwmpas a phenodwyd Tomos Evans, Pentre Berw a W.H. yn gyd-ysgrifenyddion, a William Roberts, Cefn Du yn Llywydd. 'Roedd William Roberts yn boblogaidd trwy'r Ynys, ac yn ŵr craff, eang ei syniadau ac yn gerddor da. Er mai dyn canol oed oedd, meddai ar ysbryd mor ifanc ag unrhyw fachgen. Teimlai'r pwyllgor yn gefnog wedi cael dyn o safle William Roberts yn llywydd arnynt.
Y gorchwyl cyntaf oedd tynnu allan restr o danysgrifwyr a chafwyd elw da heb unrhyw drafferth, ond er i'r pwyllgor deimlo'n berffaith ddiogel fod ganddynt swm sylweddol wrth gefn barnwyd y byddai'n ddoeth cael gwarantwyr rhag anffawd annisgwyliadwy. Un o'r rhai cyntaf i W.H. fynd ar ei ofyn oedd Mr. Davies, Treborth, yr Aelod Seneddol dros Fôn. Eri Mr. Davies roi ei enw'n ewyllysgar 'roedd yn amheus iawn a lwyddai'r pwyllgor i gario Eisteddfod bwysig fel hon mewn ardal fechan fel y Gaerwen. Ond wrth gwrs ni wrandawai'r pwyllgor ar amheuon o'r fath ac aed ymlaen yn selog. Penderfynwyd codi pabell i tua thair mil o bobl; y pwyllgor yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb am y defnyddiau a Michael