babell. Ar ôl clywed y newydd arhosodd llawer o gorau gartref.
Ychydig o'r cyfarfodydd a gefais, gan fod ein tŷ, fel tŷ pawb yn yr ardal, yn llawn cyfeillion ac ymwelwyr yn disgwyl am ymborth, ac nid oedd modd porthi'r lluaws a mynychu pob cyfarfod.
Cofiaf am un cyfarfod yn arbennig, oherwydd digwyddiad braidd yn annymunol a gymerodd le yno, ynglŷn â'r prif adroddiad. Darn o awdl bur anodd oedd yr adroddiad. Cofier yr hen ddull o adrodd—dewis darn digon cynhyrfus, yna ei or-bwysleisio, a gweiddi ac actio gyda'r breichiau. Ystyrrid llanc ifanc o Sir Gaernarfon yn ben campwr ar y math hwn o adrodd, a chipiai'r gwobrwyon ymhob eisteddfod a chyfarfod cystadleuol ymhob man. 'Roedd, wrth gwrs, yn cystadlu yn y Gaerwen.
Daeth ymhlith y cystadleuwyr ysgolfeistr ifanc o Flaenau Ffestiniog. Torrodd dir hollol newydd mewn adrodd. Adroddodd y darn yn naturiol a chlir, heb or- acennu, bron heb symud ei aelodau. 'Roedd pawb yn dotio a dyfarnwyd ef yn orau a'r llanc o Sir Gaernarfon yn ail. A dyma a gofiaf—y llanc yn dod ar y llwyfan i dderbyn yr ail wobr â golwg gynhyrfus iawn arno, a'i wyneb fel y galchen, a meddai: ""Rwyn dymuno cyf-lwyno'r ail wobr yn ôl i'r pwyllgor a'u cynghori i brynu lle yn irad i iro cydwybod y beirniad". Aeth ferw gwyllt, pobl yma a thraw yn y babell yn protestio, ond cyn i'r sefyllfa waethygu aeth cyfeillion y llanc ifanc ag ef allan o'r babell. (Y diweddar G. J. Williams, "Griff. Williams", H.M. Inspector of Mines, oedd yr ysgolfeistr ifanc).
Diddorol iawn oedd gweld y cynulleidfaoedd yn cynyddu o ddydd i ddydd, fel erbyn diwedd yr wythnos 'roedd nifer y dyrfa'n ddigon boddhaol. Ond, colled ariannol aruthrol fu'r Eisteddfod, a'r peth nesaf oedd