Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HELYNT Y DDRAMA

PAN ymddangosodd nofel Gymraeg gyntaf Daniel Owen—Rhys Lewis—mawr fy'r canmol a darllen arni. Y cwestiwn fyddai ar wefusau pawb oedd, "Ydych chi wedi darllen Rhys Lewis eto?" 'Roedd nofel o'r fath yn amheuthun iawn yr adeg honno. 'Roedd Cymru'n bur amddifad o lenyddiaeth o'r fath, a byddai darllen lawer gwaith drosodd ar Rhys Lewis.

Daeth i feddwl dau gyfaill yn Llanrwst, dau aelod o Gapel Sion, ysgolfeistr yr "ysgol British" Mr. D. J. Williams, a'm gŵr, i geisio gwneud drama allan o'r nofel, er mwyn cael elw at dalu dyled y capel. Aethant ati yn union deg. Ni feddai'r un o'r ddau na syniad na phrofiad am y dull o greu drama. Nid oedd fawr o sôn am ddrama Gymraeg. Ond teimlent fod y cymeriadau yn y nofel mor fyw fel y byddai'n hawdd eu rhoddi mewn drama.

Llwyddodd y ddau i greu drama bur dda a rhoi cymeriadau y nofel i gyd i mewn. Y peth nesaf fu dewis y cwmni a chredaf iddynt lwyddo yn hyn yn ogystal. Hwyrach y bydd o ddiddordeb i mi enwi yr actorion.

Cymerwyd rhan Tomos Bartley gan fachgen o Ffestiniog a weithiai yn swyddfa'r Rhedegydd yn Llanrwst—Evan Pugh. 'Roedd yn gloff, a siaradai'n hamddenol a braidd trwy ei drwyn. Nid oedd yn rhaid iddo wneud dim mwy na bod yn naturiol i wneud Tomos Bartley campus.

Cymerwyd rhan Barbara a Mari Lewis gan ddwy chwaer—Mrs. Hughes a Mrs. Hayes—ac yr oedd y ddwy yn hynod o dda, yn enwedig Mari Lewis. Wrth gwrs 'roedd mwy o gyfle i actio gan Mari Lewis. Cymerwyd rhan Abel Hughes y blaenor gan ffarmwr o'r enw John Roberts, dyn mawr tal, ac yn flaenor yng nghapel