bach Bethel y tu allan i Lanrwst. 'Roedd yn gwneud Abel Hughes da iawn. Cymerwyd rhan Rhys Lewis a Wil Bryan gan ddau fasnachwr ifanc yn y dref. T. R. Jones y sadler (tad y Cadben J. Glyn Jones o'r Weinyddiaeth Heddwch, Caerdydd) oedd Rhys Lewis. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi anghofio enw iawn y bachgen a gymerodd ran Wil Bryan. Fel "Wil Bryan" y bûm yn cofio amdano ar hyd y blynyddoedd. Gwnaeth y ddau eu rhan yn llwyddiannus iawn. Bachgen o Sais wedi dysgu Cymraeg pur glapiog oedd Mr. Brown y Person; D. J. Williams yr ysgolfeistr oedd y proffesor yn y Bala; fy ngŵr oedd Bob y rebel a Mr. Jenkins, a gadwai siop esgidiau yn y dref, oedd y plismon. A dyna'r cwmni'n gryno.
Nid oedd cynhyrchydd i'r cwmni gan nad oedd yr un ohonom â mwy o brofiad na'r llall sut i actio drama, felly pawb â'i farn oedd, a mawr fu'r hwyl a'r mwynhad. "Na wir, fel hyn 'rwyf fi'n gweld pethau", neu "Nid fel yna y bydd Person yn siarad", ac felly'n y blaen wrth ddysgu'r gwaith. Fy rhan i oedd bod y tu ôl i'r llen fel prompter—ac erbyn y diwedd gwyddwn bob gair o'r ddrama ar ei hyd.
Er mwyn amrywiaeth a hwyl trefnwyd i Bob ddianc pan oedd y plismon yn ei arwain i'r carchar, ac i redeg ar draws y llwyfan a'r plismon i'w ddal ar ôl tipyn o ymladdfa rhyngddynt.
Bu'r perfformiad cyntaf yn llwyddiant mawr. Gan ei fod yn rhywbeth mor newydd nid oedd dim critic i bigo beiau! Yn fuan iawn daeth gwahoddiadau inni o bob cyfeiriad i roddi perfformiad. Penderfynodd y cwmni ar ddau beth—yn gyntaf nad oeddent i dderbyn tâl am eu gwasanaeth, dim ond y gost o'u cludo. Ac yn ail, nad oeddent i dderbyn gwahoddiad at ddim ond