Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos teilwng. Cadwyd at y ddau amod am y ddau dymor y bu i'r cwmni wasanaethu.

Nid wyf yn meddwl i un pentref o fewn cyrraedd, pell ac agos, fod heb berfformiad. Buom cyn belled â Llandudno a Phenmaenmawr a'r cwmni'n ennill cryn brofiad ac hunanfeddiant, a'r actio'n gwella bob tro.

Dwedir nad oes gynnydd heb ragfarn o ryw du i'w herio. Ac felly gyda'n cwmni ni. Cododd rhagfarn mewn ambell gyfeiriad ar draws y wlad. Ni fuasai'n syndod gennym i ambell hen flaenor braidd yn gul godi ei lais yn erbyn actio, ond, ysywaeth, y pregethwyr oedd y mwyaf eu rhagfarn, a'r pennaf ohonynt oedd y diweddar Barchedig H. Barrow Williams, Llandudno. Dyn cymharol ifanc oedd yr adeg honno, ac ystyrid ef yn ddyn diwylliedig ac eang ei farn. Hoffwn bob amser ei wrando'n pregethu. 'Roedd bob amser mor fywiog a diddorol yn y pwlpud; ni allwn feddwl am neb yn cysgu dan ei bregethau a byddai'r capel yn orlawn. Ni fu pregethwr mewn pwlpud yn meddu ar well dawn actio na Barrow Williams—nid o fwriad cofier—ond 'roedd y ddawn naturiol ganddo.

Anodd felly oedd deall i un mor ddiwylliedig goleddu'r fath ragfarn. Ni chlywais erioed fod rhagfarn yn erbyn Daniel Owen am gyfansoddi nofel Rhys Lewis, nac yn erbyn neb am ei darllen. Ond, actio'r stori ar y llwyfan oedd y trosedd a'r pechod mawr.

O'r diwedd clywodd y cwmni i rai o'r pregethwyr, o dan arweiniad Barrow Williams, benderfynu dod â'r achos o flaen y Cyfarfod Misol. 'Roedd pob un o'r cwmni'n aelod selog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac felly, yn hytrach na chreu helynt yn yr eglwys, cytunasant mai chwalu'r cwmni fyddai'r doethaf a rhoi'r gorau i'r actio ar ôl y ddau dymor llwyddiannus o wasanaeth. Ac felly y bu er siomedigaeth i lawer o'n cyfeillion. Ni