Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor aml rhwng dyheadau yr hen a'r ifanc. Lawer gwaith y syllais ar iar a haid o gywion hwyaid; y rhai bach yn mynd i'r dŵr am y tro cyntaf a'r hen iar yn clowcian arnynt i ddod yn ôl, a'r rhai bach yn dal i fwynhau'r dŵr heb dalu sylw yn y byd iddi.

Aeth W.H. a minnau ati i ffurfio cwmni drama un-waith eto i geisio perfformio drama Richard. Caed cwmni llwyddiannus dros ben. Buom wrthi am ddau dymor, a chawsom deithio ar hyd a lled y Gogledd. Cawsom wahoddiad un tro gan Gymdeithas y Ford Gron Manceinion a chawsom hwyl dda yn y Sun Hall, a'r ystafell yn orlawn. Nid rhagfarn a chwalodd y cwmni y tro hwn ond colli rhai o'r actorion gorau am iddynt ymadael â'r lle, ac nid oeddem am chwilio am rai newydd. O aelodau'r cwmni cyntaf, cwmni Rhys Lewis, nid oes heddiw ond y fi yn fyw. Am yr ail gwmni—cwmni "Taid a Nain", nid oes ond un yn aros yn Llanrwst-fy hen ffrind Miss Jones, Haddef. Bu rhai o'r actorion farw; mae'r gweddill ar wasgar yma a thraw yn Lloegr.

Wel, rhedodd llawer iawn o ddŵr o dan yr hen Bont Fawr er pan fu'r cwmni bach cartrefol yn mentro actio Rhys Lewis a chael ein herlid o'r herwydd. Erbyn heddiw caiff y ddrama ran bwysig ym mhob agwedd o fywyd Cymru, ac y mae digon o ysgrifennu dramâu newydd. Ni fedd pob un ohonynt ddawn Daniel Owen i bortreadu bywyd cyffredin. Mae'n werth hyd yn oed heddiw i ysgrifenwyr ifanc ddarllen Rhys Lewis.