Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AR GEFN BEIC

TU ôl i'm cartref presennol yn Sidcup saif ysgol "fodern" eilradd hardd, i fechgyn a genethod. Gwelaf bob dydd fintai fawr ohonynt yn gwibio ar scri heibio'r tŷ ar gefn eu beiciau ac yn gwau trwy geir modur a lorïau yn hollol ddi-ofn, ac yn edrych fel pe baent yn un â'r peiriant. Dygant fy meddwl yn ôl flynyddoedd maith at yr adeg y gwelais y beisicl cyntaf erioed. Nid oedd eto sôn am na char modur na bws na dim o'r fath, a'r unig ffordd i deithio'r ffyrdd oedd ar ddau droed, ar gefn ceffyl neu ful, neu mewn cerbyd. Er cymaint y newid a ddaeth ar fywyd cymdeithasol trwy ddyfais y car modur, tybiaf mae y beisicl a ddechreuodd y chwyldroad ym mywyd cefn gwlad; y beisicl a ddechreuodd ei gwneud yn bosibl i lanciau ifanc grwydro ymhell o ororau cyfyng y pentref. Ond, ni freuddwydiai neb ar y pryd beth fyddai effaith y ddyfais newydd. Edrychem ar y beisicl cyntaf yn yr ardal fel rhyfeddod-gyda'i olwyn fawr uchel o'r tu blaen a'i olwyn fechan o'r tu ôl. Rhyfeddwn at allu unrhyw un i fynd ar gefn olwyn mor uchel, ac i ddal i eistedd arni heb gwympo. Wrth gwrs ni fyddai merched yn meiddio meddwl am ddringo arnynt. Ni fyddai'n "weddus" i ferch wneud y fath beth, hyd yn oed pe gallai.

Nid "beisicl" mo'r enw yng Ngogledd Cymru y pryd hynny, ond "ceffyl haearn" neu "car gwyllt". Hwyrach mai'r enw Saesneg penny-farthing yw'r mwyaf disgrifiadol. Nid oes gennyf syniad pa hyd y bu'r math hwn o feic mewn bri. Nid wy'n tybied iddo fod yn boblogaidd iawn yn y gogledd. Cofia Hugh fy mrawd i fachgen o'r dosbarth hynaf yn ysgol Garn Dolbenmaen, o'r enw Seth, feddu ar feic olwyn fawr. Nid oedd yn bosibl reidio beic yn unman ym mhentre'r Garn y pryd hynny, gan