Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwn innau, "Wel, tyda ni ddim yn reidio, fel mae gwaethaf modd, cerdded ydym. A fuasech cystal â dweud wrth fy ngŵr os gwelwch ef ar y ffordd ein bod wrthi'n cerdded gorau y gallwn". "Pwy yw'ch gŵr?" meddai yn fwy sarrug fyth. "Ond Mr. Williams gorsaf feistr Llanrwst", meddwn. Newidiodd ei diwn ar amrantiad. "Mae'n ddrwg gennyf Mrs. Williams, nid oeddwn wedi eich adnabod. Rhoddaf eich neges i Mr. Williams", ac i ffwrdd ag ef. Sylweddolais ei fod wedi aros ar ben yr allt i geisio dal y ddwy ferch a welodd yn gynarach, yn torri'r gyfraith. 'Roeddwn yn ddiolchgar nad oedd wedi mynd heibio ychydig funudau'n gynt a chanfod y beic a minnau yn mesur ein hyd ar y ffordd!

Wedi i Mr. Jarvis ein gadael 'roedd erbyn hyn tua'r hanner awr wedi deg, ac yn dywyll iawn, a ninnau ein dwy yn gwthio'r beiciau ar ganol y ffordd, mor agos i'n gilydd ag y gallem, ac yn ofni unrhyw foment gweld rhyw anghenfil yn neidio o'r clawdd i ymosod arnom. Ond yn ffodus ni welsom ddim, na'r un wyneb byw ar ôl i Mr. Jarvis ein gadael. Nid oedd na siw na miw; dim ond sŵn ein traed yn cerdded ar hyd y ffordd yn y distawrwydd, ac yr oeddem wedi hen golli awydd i ddweud gair. Dirwyn un rhan o ffordd Talycafn trwy goedwig, a choed uchel, tywyll, talfrig o bobtu yn gwneud twnel hir. 'Roedd mor dywyll yn y twnel fel na welem yr un llewyrch ac ni allem ond teimlo'r ffordd â'n traed. Caem ein hunain yn aml yn cerdded yn syth i'r clawdd, ambell dro yn sathru ar frigyn coeden, a hwnnw'n rhoi clec fel ergyd gwn a pheri inni neidio mewn ofn a braw. Gwaeth na'r cwbwl, dechreuodd y tylluanod hwtian. 'Roeddem yn hen gynefin â sŵn tylluanod yn Llanrwst ond ni fu yr un ohonom mor agos atynt â'r noson hon. Yr oeddent fel pe o'n cwmpas ymhob man-y naill yn ateb y llall—ac ni wn am ddim a all beri iâs fel pe bai dŵr oer yn rhedeg i