Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawr y cefn, fel hwtian tylluan yn nhrymder y nos ym mherfedd y wlad. Ni allaf ddatgan mewn geiriau faint ein hofn y noson honno. Yr oeddem yn fwy ofnus fyth wrth feddwl am gyrraedd giât wen Maenan cyn i W.H. ddod i'n cyfarfod. Dwedid fod ysbryd yn ymddangos liw nos wrth y giât wen. 'Roeddem mewn penbleth. Beth fuasai'r gwaethaf—aros yn y distawrwydd a'r tywyllwch, yn yr un fan, nes y deuai W.H., neu cerdded ymlaen a mentro'r giât wen? 'Roedd rhywfaint o gysur yn sŵn ein traed ar y ffordd.

'Roeddem am ddod allan o'r twnel cyn penderfynu—ac O! 'r llawenydd oedd inni, wedi dod yn rhydd o'r twnel a chyrraedd Plas Tan yr Allt, gyferbyn â Dolgarrog a gweld llewyrch lamp beisicl yn cyflymu i'n cyfarfod yn y pellter. 'Roedd W.H. ar gyrraedd, ac ni fûm erioed yn falchach o'i weld, nid yn unig am y byddai'r lampau yn rhoi diwedd ar y cerdded blin, ond yn ei gwmpeini nid oedd ots gennyf mwyach am na thywyllwch, na thylluanod nac ysbryd giât wen Maenan! 'Roedd W.H. gennym wrth gefn i'n hamddiffyn. Gan nad oedd ganddo ofn dim na neb teimlem ninnau'n hollol ddi-ofn yn ei gwmni.

Mae'n debyg fod W.H. wedi cynhyrfu tipyn pan dderbyniodd neges gorsaf feistr Talycafn. Gwyddai am unigrwydd y ffordd; gwyddai y byddai'n aml ambell i feddwyn yn dychwel o'r dref; gwyddai y buasem ein dwy yn ofnus. 'Roedd wedi poeni wrth feddwl am ein cyflwr, ar hyd y ffordd atom, ond wedi ein cyrraedd cuddiodd ei deimladau, fel y bydd tad neu fam gyda phlentyn wedi osgoi perygl. Ymddangosai i ni braidd yn dynn. Ni ddywedodd lawer ond yr oedd pob osgo yn tueddu i'n beio am fod mor esgeulus â cholli'r trên ola a'i orfodi i wneud taith berfedd nos heb achos. A ninnau'n dwy yn ddistaw ac yn teimlo'n wir euog. Aeth W.H. ati'n bur rodresgar i osod y lampau ar ein beiciau.