Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymrodd hyn amser gan fod y noson mor dywyll a chan nad oedd ganddo ond llewyrch lamp ei feic ei hun. Llwyddodd o'r diwedd ac aeth ati i'w goleuo, a ninnau'n edrych ymlaen at gael eistedd ar y cyfrwy a chyflymu adref. Ond Ow! Sôn am esgeulustod! 'Roeddem fel y morwynion ffôl gynt-heb olew yn ein lampau. A W.H. erbyn hyn yn union fel awyren wedi i rywun roi pin ynddi, ac yn teimlo'n fwy gan na ddywedodd neb air. O'r diwedd methais i ddal rhag chwerthin. ""Does dim dewis rhyngom", meddwn, "dim dewis rhwng colli'r trên ac anghofio'r olew", a dyma chwerthin mawr dros y lle yn rhwygo'r distawrwydd. 'Roeddem i gyd yn teimlo'n well ar ôl rhyddhau ein teimladau. Beth a wnaem yn awr?. Dyna'r cwestiwn. 'Roedd W.H. am inni reidio y tu ôl iddo, ac yntau fel pilot. Ond ni fynnai Mrs. Williams na minnau sôn am y cynllun. Nid oeddem wedi anghofio'r codwm a gefais trwy reidio heb olau. Felly 'toedd ond dau droed amdani ac erbyn hyn 'roedd W.H. yn barod i gytuno ag unrhyw gynllun. Ac felly y bu, dim ond dau droed a gwthio'r beiciau yr holl ffordd.

Ymhell cyn cyrraedd adref 'roedd fy nghoesau fel mashîn wedi ei weindio ac yn symud bron ohonynt eu hunain, y naill droed heibio'r llall. O'r diwedd dyma ni yn cyrraedd ein tŷ ni—ymhell wedi hanner nos, ond yr oedd gan Mrs. Williams hanner milltir eto cyn cyrraedd ei thŷ, ac aeth W.H. i'w hebrwng. Amdanaf fi, euthum i'r tŷ a'm taflu fy hun ar y soffa, yn rhy flin i fwyta swper, a phan es i'r gwely a chysgu, teimlwn fy hun drwy'r nos yn mynd fel mashîn ac yn gwthio beic heb ball. Erbyn y bore prin y gallwn symud gan boen yn fy aelodau ar ôl y daith. Rhaid ein bod wedi cerdded, a gwthio'r beiciau-o leiaf ddeng milltir, ar wadnau tenau. Darfu pob awydd ynof am seiclo. Nid oedd arnaf eisiau gweld yr hen feic