mwyach. Rhoddodd y daith fythgofiadwy ddiwedd ar fy nyddiau seiclo am fy oes.
Soniais o'r blaen am rai o helyntion Bob fy mrawd. Daw sôn am feic â stori i'm meddwl am helynt Bob a'i feic. 'Roeddwn wedi clywed Bob, a Hugh fy mrawd yn sôn am yr helynt, ond i ferch Richard fy mrawd, Mrs. Ted Jones Rhes-y-cae, Holywell, 'rwyf yn ddyledus am y rhan o'r stori fel y gwelodd ei thad a'i mam hi. Nid oedd ei brawd a hithau ond plant ifanc iawn pan ddigwyddodd yr helynt, ond clywodd ei thad yn adrodd y stori mor aml fel y glynodd y manylion i gyd yn ei chof, ac nid oedd neb a fedrai adrodd stori tebyg i Richard. Gwnâi bopeth yn fyw, a gwelai yr ochr ddoniol i bopeth.
Pan oedd Bob yn byw ar ei ben ei hun yn Birmingham prynodd feisicl ail law, gan edrych ymlaen at rodio'r wlad o gylch y ddinas bob pen wythnos braf. Cyn ymarfer llawer â'r beic daeth i'w ben yn sydyn i fynd yr holl ffordd i Fanceinion arno, i ymweld â Richard ei frawd a'r teulu, mentar go fawr i un fel Bob nad oedd wedi seiclo llawer o'r blaen. Ni ddaeth i'w feddwl y dylasai roddi gwybod i Richard. Meddyliai y byddai Richard yn siwr o fod gartref ar y Sul. Felly, cychwynnodd yn dalog un bore Sul heb ddim ond brechdan sych yn ei boced, gan edrych ymlaen at bryd o fwyd ar ôl cyrraedd tŷ ei frawd. Ni fuasai'r daith yn orchwyl hawdd iawn i'r sawl oedd yn gynefin â seiclo. Nid oedd y ffyrdd cystal ac y maent heddiw. Ar ôl tymor sych byddent o dan fodfeddi o lwch, a'r cloddiau'n wyn o lwch fel pe bai sachaid o flawd wedi disgyn arnynt. A gwae i'r sawl a ddigwyddai fod ar gefn beic y tu ôl i gerbyd. Ond daliodd Bob ati er gwaethaf pob rhwystr. Eisteddai yn awr ac yn y man ar ochr y ffordd i fwyta'r frechdan sychlyd ac i orffwys tipyn. Cafodd ei gam-