Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

coed gerllaw a'r geiriau "Hir yw'r nos i aros Ŵan". Aeth blynyddoedd maith heibio ond parhaodd ysbryd y coed i oernadu ac i lefain am Ŵan. Gwnaed llawer ymdrech i gael yr ysbryd i ddatguddio'r gyfrinach, ond Ŵan yn unig oedd i'w derbyn. O'r diwedd (ni wn pa sut na paham na pha fodd, nac yn wir o ble y daeth), daeth Ŵan—rhyw aelod o'r hen deulu. Gorchymynnodd yr ysbryd iddo godi carreg anferth a orweddai yn y coed gerllaw. Codwyd y garreg ac yno y cafwyd rhaw fawr. Cloddiodd Ŵan â'r rhaw a chafodd hyd i bentwr mawr o arian, a gelwid yr arian yn "arian pen rhaw". Dwedodd fy mrawd Richard wrthyf, rhyw 50 mlynedd yn ôl, ei fod wedi clywed stori gyffelyb ym Mhenmachno.

'Roedd gan Nain storïau gwahanol iawn i storïau Tylwyth Teg a storïau ysbrydion. Mae'n amlwg iddynt berthyn i lên gwerin llawer gwlad—storïau cyffelyb i stori Ffawst—dyn neu wraig yn gwerthu ei enaid i Satan. Ond, am wragedd o'r fath y byddai storïau Nain bob amser. Dyma ddwy ohonynt:

Y DIAFOL DU

Yn Llanrhychwyn bywiai dwy hen ferch ac yr oedd ganddynt gath ddu. Ni wyddai neb oed y gath. Dwedid iddi berthyn i rieni'r ddwy hen ferch ond, er i'r ddwy fod yn hen ac yn grintachlyd 'roedd y gath yn hollol ddi-newid ar hyd y blynyddoedd. O'r herwydd byddai llawer o sibrwd a siarad yn y gymdogaeth am y ddwy hen ferch. Ni fywient fel eu cymdogion—cadwent o'r neilltu, a dwedid y byddent mewn aml gymundeb â'r ysbrydion. Ni ddeallai neb beth oedd ffynhonnell eu cyfoeth. Rhaid meddid, eu bod yn meddu ar gyfoeth am nad oeddent yn gweithio am fywoliaeth. 'Roedd yn amlwg, meddid, nad cath ddu oedd y gath. Byddai'n dilyn y ddwy hen ferch i