YR HEN GIST DDERW
SONIA John fy mrawd yn ei Atgofion am hen gist dderw Nain Tŷ Newydd a'r pleser a gafodd wrth ddarllen cynnwys y gist. Pan ymadawodd Nain o'r Tŷ Newydd anfonodd y gist i Nhad a Mam a chafodd William fy mrawd a minnau lawer gwledd, fel John gynt, wrth ddarllen y llyfrau ynddi. Ymysg llyfrau eraill yr oedd Taith y Pererin, Taith Christiana a'i Phlant a'r Rhyfel Ysbrydol.
Pan âi Nhad a Mam i'r capel nos Sul a gadael William a minnau i warchod Hugh ac Owen, y ddau blentyn ieuengaf, rhoddem y ddau yn eu gwely mor fuan ac y gallem ac agorem yr hen gist a thynnu allan y llyfrau, gan ddarllen yn uchel bob yn ail baragraff. Aethom drwy Taith y Pererin i gyd, a Thaith Christiana, ond ni chawsom gystal blas ar hwnnw. 'Roedd taith Cristion fel rhamant fawr inni. Y rhan a gafodd fwyaf o effaith arnaf oedd hanes Cristion yng Nglyn Cysgod Angau, a'r ymladdfa ofnadwy rhyngddo ag Apolyon. 'Roedd y darlun o'r glyn yn ddigon i godi arswyd ar unrhyw blentyn—Cristion yn cerdded ar hyd llwybr cul a gagendor mawr o bobtu'r llwybr; fflamau tân fel llenni o'i gwmpas; ellyllod a seirff gwenwynig yn gwibio drwy ei gilydd yn y fflamau, ac Apolyon ar ganol y llwybr cul. Bu'r darlun fel hunlle' imi am amser. Byddwn yn ffaelu cysgu'r nos wrth feddwl am yr olygfa a gofynnwn i mi fy hun a fyddai'n rhaid inni oll fynd trwy brofiad Cristion wrth gerdded y Glyn.
Ychydig o lenyddiaeth Gymraeg ddeniadol oedd yn ein cyrraedd ni pan yn blant. Nid oedd gennym ond y llyfrau a enwais, y Beibl a Thrysorfa'r Plant. Yr oeddem