yn rhy ifanc i gymryd diddordeb yn y Gwyddoniadur. "Toedd ryfedd felly inni ddarllen cymaint o lyfrau Saesneg yn ddiweddarach. Cofiaf i John roi imi yn anrheg The Wide Wide World gan Ellen Montgomery. Bu darllen y llyfr fel agoriad i fyd mawr eang llenyddiaeth Saesneg imi. Erbyn imi gyrraedd fy 20 oed 'roeddwn wedi'm trwytho yn nofelau a llenyddiaeth Saesneg.
Rhaid cyfaddef mai ar y Cymry eu hunain 'roedd y bai am y diffyg mawr o lyfrau a storïau i blant a phobl ifanc. Credai Cymry blaenllaw a diwylliedig mai dysgu Saesneg oedd y peth mwyaf pwysig. Deallai a darllenai pawb Gymraeg yn rhwydd, ond trwy'r Saesneg 'roedd y ffordd i'r Brifysgol, ac i swyddi uchaf masnach a diwydiant. 'Roedd rhieni yr un mor awyddus i'r plant fod yn hyddysg yn yr iaith Saesneg; felly ni feddylient am yr angen am lyfrau Cymraeg o'r un safon â llyfrau Saesneg i blant ac ieuenctid. Gwnaethant gamsyniad dirfawr, ond ni ddaeth i'w meddwl y byddai Cymru rhyw ddydd yn brwydro'n galed rhag colli ei hiaith.
Nid oedd ychwaith gylchgronau i ferched a gwragedd fel y rhai Saesneg. Felly, ar ôl gadael dyddiau ysgol hawdd iawn oedd i ferched ddarllen mwyfwy o gylchgronau a llyfrau Saesneg.
Cyn dyddiau'r ysgolion "British" a "National", ceisiai gweithwyr cyffredin gael tipyn o ysgol i'w meibion, i ddysgu Saesneg iddynt. Cafodd Nhad flwyddyn o ysgol. Cedwid yr ysgol gan hen filwr ungoes, mewn bwthyn yn Llanddoget. Byddai dwsinau o ysgolion cyffelyb i fechgyn, yn cael eu cynnal gan hen filwyr ar hyd a lled y wlad. Crafai rhieni ddigon o'r ceiniogau prin i dalu am i fab ddysgu darllen, 'sgrifennu a rhifo yn Saesneg. Yn ein hamser ni, beth bynnag, iaith yr Ysgol Sul oedd y Gymraeg, ac iaith yr ysgol ddyddiol oedd y Saesneg. Felly 'roedd rhyw ymraniad cyffelyb yn y llenyddiaeth.