Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bûm yn meddwl lawer tro y dylasai rhywun fod wedi trosi rhai o'r llyfrau Saesneg i'r plant. Yr un yw plant ymhob man, ac ymhob oes, gyda'r un mwynhad mewn storiau antur. Bu llawer o drosi i'r Gymraeg ar ganeuon Saesneg a byddai pawb yn eu mwynhau. Dyma un fyddai'n mynd yn dda bob amser ymhob cyngerdd yn ardal y Garn. "Aeth Pat i gloddio ffynnon". Dyma'r geiriau:

Aeth Pat i gloddio ffynnon
Yn gontract at rhyw dŷ;
Dywedaf ichwi'r hanes,
Yn union fel y bu.
'Rôl sincio ugain troedfedd,
Drwy lafur, chwys a phoen,
Ei gefn i gyd yn wayw
A'i ddwylaw'n bwrw'r croen.

Yna byddai'r canwr yn torri i siarad, "Och medda Pat, ma' 'nghefn i'n dost, ond rhaid gweithio, oblegid (gan droi i ganu),

'Does dim ond ugain dolar,
'Does dim ond ugain dolar,
'Does dim ond ugain dolar,
Am gloddio at y dŵr".

Ni chofiaf y gweddill o'r penillion ond byddai'r un patrwm o ganu a siarad. Wrth edrych yn ôl ymddengys imi fel pe bai Cymry'r adeg honno wedi dechrau colli gwybodaeth o'r stôr fawr o ganeuon digri a berthynai i ganu gwerin. Ar ôl Diwygiad 1859 ciliodd yr hen ganeuon digri i'r tafarnau, ac i'r llofft stabal, ac nid oeddent yn "weddus" mewn cyfarfod neu gyngerdd. Rhaid fyddai i destun cân mewn cyfarfod cystadleuol fod yn destun difrifol. Yn aml iawn, byddai'n emyn. Cofiaf Owen