Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dirwyn Edafedd.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel y dwedais yn Brethyn Cartref, nid oeddwn yn hapus iawn yn byw wrth ymyl fy nheulu-yng-nghyfraith. Cefais ganddynt lawer achos poen meddwl ac ysbryd, a gofid i'm calon. Ond penderfynais guddio fy nolur ac ni ffraeais erioed. Nid oeddwn wedi arfer ffraeo ac nid oeddwn am ddechrau, ac ni fynnwn fod yn destun ffraeo rhyngddynt a'm gŵr. ('Roedd ef mor wahanol iddynt i gyd).

Ond, daeth tro iddynt ddod ar fy ngofyn a brysiais i ateb. Tarawyd y fam yn wael iawn â'r typhoid fever. Cymerodd yn erbyn ei merched. Mynnai yn ei drysni eu bod i gyd am ei gwenwyno ac ni chymerai ddafn na thamaid ganddynt. Yn wir ni fynnai iddynt groesi trothwy'r ystafell. Gwaeth na'r cwbl, trodd yn erbyn y meddyg ifanc, am ei fod yn gyfaill mawr i un o'r merched. Er syndod pawb (a'm syndod innau hefyd) galwodd amdanaf a phan welodd fi dwedodd, "Dowch yma ngeneth i a chadwch y diefliaid yna allan rhag iddynt gael y siawns i roi gwenwyn imi". Bu mewn drysni am ddiwrnodau a bûm gyda hi nos a dydd. Cofiaf am un noson yn arbennig. 'Roedd y drysni'n gwaethygu ac yr oedd yn peri ofn imi. Weithiau yn ystod y nos mynnai imi orwedd rhyngddi a'r drws. "Wnewch chi hel y ddau ddyn yna allan 'y ngenath i". "Beth mae'r ddynes fach ddu na eisiau?" "Pwy ddynes?" meddwn. "Ond dyna hi yn sefyll wrth droed y gwely yn llygadrythu. Ewch â hi allan ar unwaith".

O'r diwedd 'roeddwn bron â methu dal. Nid oedd ond cylch cyfyng o olau o gwmpas y lamp fechan, a'r cysgodion yn ymdroelli trwy'r ystafell. 'Roeddwn yn barod i gredu fod yr hen wraig yn gweld rhywbeth. Cipiais ganhwyllbren, goleuais y gannwyll ac i ffwrdd â mi i lawr y grisiau i geisio cwmpeini rhywun synhwyrol am foment. Ar y ffordd i lawr syrthiodd golau gwan y gannwyll ar wyneb yr hen gloc. Tybiais weld gwên sarhaus ar yr wyneb, bron