Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

fwrneli (bundles), yn cynwys 110 o latheni mewn hyd, ar loriau y gweithfäoedd hyn, y rhai a ddanfonid mewn llongau i Lerpwl, Carolina Ddeheuol, Charleston, a manau ereill; eithr daeth y cludiadau hyn i lwyr derfyniad oddeutu y f. 1793, pryd yr ail- gychwynwyd y fasnach ag Amwytbig, gyda chario'r brethyn yno mewn pedrolfeni. Y mae crwynyddiaeth yn fasnach bwysig yma hefyd, mŵnyddiaeth mewn plwm, efydd ac aur (Gwynfynydd, cofier), eithr mae'r draul o agor coffrau y trysorau wedi llesteirio yr anturiaethydd er's llawer dydd, fel nad oes son mwyach am ail gynyg am y buddianau cuddiedig, oddieithr am " Waith Aur" nodedig Llanfachraith. Yn 1862 dyry Mynydd y Clogau, a saif cydrhwng Dolgellau a'r Bermo, aur a chopr i logellau yr antur- iaethwyr gwerthwyd gwerth oddeutu £70,000 o'i aur i Ariandy Lloegr. Tybir, ar adeg gwrthryfel mawr 1642-46, i'r gronfa Gymreig uchod mewn aur gyfranu llawer o'i darganfyddiad gwerthfawr i Siarl I., tra na sonir am hyn ond mewn traddodiad, eithr sir Aberteifi a gaiff y clod am hynny, ac am y talpiau euraidd a ddygid i fathdy Aberystwyth i wneyd penaduriaid o'r teyrn a enwyd. Dygid darnau teir-punt allan a bwysent 411 o ronynau, a'r dyddiad 1644 arnynt. Dygai dair pluen ar un wyneb, a'r plu a nod y bathdy ar y llall. Yr argraff yn llawn ydoedd:- "CAROLVS D:G:M. AC: BRI: FRA: ET HIBER: REX." Yna ardeb o ran uchaf o'r brenin, a'i ochrau yn troi i'r dde, wedi ei goroni ag arfogaeth. Yn ei law ddehau y mae cleddyf, a changen olewydden yn ei aswy. Ar y wyneb arall ceir-"EXVRGAI. DEVS. DISSIPENTVRINI MICI." Yn llinellau ar y canol ceir "RELIG: PRO: LEG: ANG: LIBER. PAR." Yna y rhif 111, a'r plu uwch ben, a'r dyddiad 1644 oddidanodd. Credaf fod llawer o'r bathau hyn yn gadwedig ynghudd yn Nolgellau a'r cylchoedd.

Wedi trem frysiog fel yna ar y dref yn rhanol, cymeraf yr ymwelydd yn erbyn ei law i weled desgrifiad Fuller o Ddolgellau yn ei "Worthies in Wales":-

"1. The walls thereof are three miles high.
2. Men go into it over the water; but
3. Go out of it under the water.
4. The steeple thereof doth grow therein.
5. There are more ale-houses than houses."