Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CWRT PLAS YN Y DREF

Sef gweddillion hen Senedd-dy Owain Glyndw^r, a erys ym mhlith siopau eang, ger gwesty'r Ship. Cynhaliodd Owain ei Senedd yma yn 1404, wedi iddo syrthio i gynghrair gyda Siarl I, brenin Ffrainc. Yn ystod y rhyfeloedd cartrefol, pa rai a fu'n achos, neu achlysur i farwolaeth Siarl, ymgymerodd dosbarth neilltuol, oddeutu 100 o'r milwyr brenhinol, âr gorchwyl o godi gwarchae'r dref, er ei amddiffyn oddi wrth y galluoedd Seneddol, ond hyn a rwystrwyd gan Ed. Fychan, yr hwn oedd arweinydd ei restr ymosodol, ar un hefyd a chwalodd y terfysgwyr, gan gymeryd eu blaenor yn garcharor.

Gair am Owen Glyndw^r. Ganwyd yr arwr byd enwog hwn Mai 28ain, 1349. Hanai o du ei dad, Gruffudd Fychan, o Bleddyn ab Cynfyn, tywysog Powys, ac o du ei fam, Elin, ferch Tomos ab Hywel, o Llewelyn, tywysog olaf Cymru. Talfyriad yw Glyndw^r o Glyn Dyfrdwy, a cheir ei dreftadaeth ac olion ei balas yn aros eto ger Llansantffraid—Glyndyfrdwy; ond ei brif balas ydoedd Sycharth, wrth Lansilin.

Ei wraig oedd Margaret, merch i Syr Dafydd Hamner, o Sir Fflint, un o farnwyr ieuainc Rhisiart II. Dengys wrhydri dihafal fel cynghorydd mewn câd, ac fel cyfaill i'w gydgenedl, dros ei hiawnderau cynhenid, a'i hannibyniaeth genedlaethol. Anfonodd ei Ganghellydd, Gruffydd Younge, LL.D., Archddeon Meirionydd, a Syr John Hanmer, ei garennydd, yn llysgenhadon drosto i Baris at Siarl, a ffurfiwyd cynghrair rhyfel, ym mha un yr ymgyfenwai yn Dywysog Cymru.

Dechreuai ei gylchlythyr o [1]Senedd-dy Dolgellau fel hyn:— Owinus Dei gratia Princeps Walliæ. Datum apud Doleguelli 10 die mensis Maii, MCCCC., quarto, et principatus nostri quarto. Arwyddwyd eu papyrau yn Nolgellau, a chadarnhawyd hwy gan Glyndŵr yn nghastell Llanbadarn, Ion. 12fed, 1405, a chawsant y derbyniad mwyaf brwdfrydig gan y Canghellydd Ffrengig ai gyd-swyddogion. Wedi hyn, safodd Ffrainc o'i blaid fel y graig ddiysgog, a

  1. Am hanes diddorol a darlun o'r Senedd—dy (gweddillion yr hwn a erys eto) ym Machynlleth, Lloegr Y Gwladgarwr, 1836, tud. 37; ar un yn Nolgellau yn Ngweithiau Glasynys, 1898, casgledig gan Mr O. M. Edwards, M.A