Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bu iddynt daflu y cynorthwyon gorau iddo ef ai gydgenedl orthrymedig, mewn gwahanol gadau o'r pwys mwyaf mewn buddugoliaeth. Dangosodd y gwroldeb uchaf ar y cadfaes efo Rhisiart II. a Harri IV., ac nad dyn ydoedd i chware ag ef, pan roddid rhyddid gwlad ac iawnder cenedl gyfan yn y clorian, er — gwaethaf y ddau frenin a nodwyd, a Reginald de Grey, Ieuan ab Meredydd o Gefn y Fan, a Hwlcyn Llwyd o Lynllifon, dau elyn calon iddo. Gwnaeth "Y Croesau", dernyn o dir gerllaw Rhuthun, yn asgwrn y gynnen i dynnu gorsedd Prydain a'i phenaduriaid yn ei ben, er amddiffyn ei wlad, a tharo traha y Saeson i'r llawr, a bu llwyddiannus am flynyddau i dorfynyglu anghyfiawnder estroniaid, ac i dynnu gyddfau yr hen genedl o iau caethiwed. Llosgodd Rhuthun,—lladdodd ugeiniau o Saeson o gylch mynydd Pumlumon. Dioddefodd swydd Drefaldwyn yn enbyd ganddo; llosgodd y brif dref ar Trallwm, a lladdodd 60 o geidwaid Castell Maesyfed, — chwalodd y Saeson ar lannau'r Hafren,—lladdodd 2000 o Saeson o dan Grey ar lannau'r Fyrnwy,— cymerodd Grey yn garcharor a deolodd ef yn garcharor i Eryri, llosgodd Gefn y Fan, a Glynllifon, a mynachlogydd Bangor a Llanelwy,—gorchfygodd Syr Edm. Mortimer,—daliodd Syr Dafydd Gam, ei fradwr ai frawd-yn-nghyfraith, a chaethiwodd ef am 10 mlynedd, — bu'n ymguddio'n min môr wrth Langelynin, yn Ogof Owen, lle porthid gan gyfaill o fonheddig o'r enw Ednyfed ab Aron, a chanodd Iolo Goch, ei fardd, Gywydd i Owen Glyndŵr wedi ei,fyned ar ddifancoll. Gwersyllodd ar Woodbury Hill, naw milltir o Worcester, gan gael ei gynorthwyo gan y Ffrancod, i wrthladd y Saeson, yn 1405 (Awst 7fed), a daliodd ei dir i wrthsefyll holl allu Lloegr gydag arfau Ffrainc (yn achlysurol), a gwenau'r Ysbaeniaid, hyd 1415. Bu Glyndŵr farw yn nhŷ ei ferch yn Monington, Medi 20fed, 1415, yn 61 mlwydd oed, a'r holl genedl a alarodd am dano Dechreua cywydd Iolo Goch i Glyndŵr fel hyn:—

Y gwr hir, nith gâr Harri,
Adfyd aeth, a wyd fyw di?

Ceid cywyddau eraill iddo gan yr un awdur—y naill cyn iddo godi mewn rhwysg yn erbyn Harri, ar llall pan oedd ef fwyaf ei