Tudalen:Diwrnod yn Nolgellau.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DIWRNOD YN NOLGELLAU.

ARWEINIAD I MEWN.

 ID oes gangen o wybodaeth yn fwy dyddorol, a derbyniol gan y darllenydd nag hanesiaeth. Trwy hanes y caiff yr efrydydd deithi y pethau a fu, cymeriad y gwrthddrychau a egyr o'i flaen, a dylanwad yr hynodion hynny mewn natur a chymdeithas ar bersonau a chyfeillachau, fel ag i newid osgo a thueddfryd y sylwedydd er ei "well, neu er ei waeth." Yma mae'r perygl yn clorianu, i dda neu i ddrwg, gan y gwrthddrych allanol ar a huda serch neu ddymuniad yr ymwelydd, gan ei berthynas â phechod, neu ddaioni, eithr o bydd gras a rhinwedd yn y galon, yn yr ysbryd a'r pen, yna tebyg y bydd i hoffwr gwrthddrychau fyw ar degwch, neu werth yr unrhyw er ei leshâd, gan achub ei hun rhag y drwg a'r niweidiol. Addefir gan yr hanesydd a'r hynafiaethydd nad oes lanerch fwy dyddorol, mwy amrywiol ei harddangosiadau gan natur gain yn Nghymru na Dolgellau. Y mae ei hamrywiaeth gan natur, ac encilfa dawel i anwesu pob meddwl o bleser, a fuasai olaf yn ildio ei Chymraeg i estron, ac yn ddiweddaf yn y byd i achlesu unpeth o eiddo meib Hengist, gan mor selog a ffyddlawn ydyw i ddefion Cymreig a gwladgarwch Gymröaidd. I ymwelydd â Dolgellau am ddiwrnod, cenfydd y sylwedydd craff, ac a fyn werth ei geiniog, fanau i fwynhau ei hun yn ei ymyl, ar werth pa rai y casgl fêl i'w gwch, tra caiff y teithydd pymthegnos, neu fis, leoedd o hyfrydwch i chwaeth dda a phur, pellach allan i hel mwynhad a chyfoeth meddyliol a ad-dala iddo ar eu degfed, fel y caf nodi yn y tudalenau canlynol.

DOLGELLAU YN EI HENW A'I NHODWEDD.

Saif y dref hon, sydd farchnad-dref a phlwyf, yn nghwmwd Tal-y-bont, a Mawddwy, rhwng dwy afon o'r enwau Wnion ac Aran, braidd ar ymuniad y ddiweddaf â Mawddach, ac ar fynwes dyffryn ffrwythlawn a phrydferth o amrywiaeth natur, gan gusanu troed Cader Idris, ac a fedr, fel hen Fam hybarchus yn sir Feirionydd, roddi her i unrhyw dref arall yn Nghymru am fangre