Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Diwygwyr Cymru.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r neilldu, am, meddid, fod yr esgobion wedi ei dra dyrchafu yn y fath fodd fel pe na ellid addoli Duw mewn un ffordd arall; fod pregethiad y Gair o ganlyniad wedi dirywio; a'r clerigwyr wedi eu harfer i segurdod. Felly symudwyd y Llyfr Gweddi o'r Eglwysi; cosbid y sawl a garient ymlaen wasanaeth crefyddol yn ol yr hen ddull, ai yn gyhoeddus ai yn breifat; a dirwyid y neb a esgeulusent weithredu yn ol cyfarwyddiadau'r "Hyfforddwr." Mewn geiriau eraill, defnyddid ffrewyll y Wladwriaeth i gosbi Esgobyddiaeth yn awr, fel y defnyddid hi gynt i gosbi Puritaniaeth. O dan effeithiau hyn trowyd cannoedd o glerigwyr allan o'u bywiolaethau. Trowyd cyfran helaeth, o bosibl y mwyafrif o honynt, allan, mae'n wir, am anfoesoldeb, neu anghymwysder, neu esgeulusdod o ddyledswyddau. Ond nis gallai'r diffygion hyn gyfrif am yr oll a drowyd allan—a phan gaffom enwau fel Jeremy Taylor, Hales, a Fuller, ymhlith y rhai a amddifadwyd o'u bywiolaethau, gorfodir ni i gydnabod fod llawer o'r ysbryd a gynhyrfai erlidiau'r Esgobaethwyr gynt, yn meddiannu'r Puritaniaid, ac yn arbennig y Presbyteriaid, yn awr.[1]

Mae dau beth yn deilwng o sylw yn y fan hon. Yr oedd y Presbyteriaid, fel y'u gelwid, yn llawer mwy anoddefgar na'r Anibynwyr; ac yr oedd dau ddosbarth o grefyddwyr yn ddigon anffodus i fod yn wrthrychau dialedd Pabyddion, Esgobyddion, a Phresbyteriaid. Y ddau ddosbarth yma oedd y Gwrth-Drindodwyr, a'r Bedyddwyr. O'r blaenaf cyhuddwyd John Assheton o flaen Cranmer yn 1548; offeiriad oedd Assheton, a'r cyhuddiad yn ei erbyn oedd ei fod yn ei bregethau wedi gwadu Duwdod a Iawn Crist. Gan mlynedd wedi hynny, ym

  1. Amrywia'r farn am nifer y clerigwyr a drowyd allan gan y Senedd Puritanaidd. Myn Walker, yn ei Sufferings of the Clergy, ini gredu fod 2,000 wedi dioddef yn yr erledigaeth honno. Cyfrifa Cornish (Hist. of Noncons. tudal. 86) eu bod yn 2,000. Dyma hefyd amcangyfrif Schaff (Christ and Christianity, tudal. 281). Mae Dr. Vaughan yn mynd yn fanwl i'r gyrau, ac yn dod i'r penderfyniad "nas gallai rhif y clerigwyr a ddifuddiwyd yn barhaol o'u bywiolaethau, fod dros 1,000." (English Nonconformity, tudal. 127-132, a 476-479.) Ceir cyffelyb amrywiaeth barn am y nifer a drowyd allan yng Nghymru. Dywed Walker fod cannoedd lawer, ond nid yw yn gallu rhoi enwau ond ychydig dros gant.