Mai, 1648, pan oedd y Puritaniaid wedi bod mewn awdurdod am chwe mlynedd, pasiwyd deddf yn cosbi â marwolaeth y neb a wadai athrawiaeth y Drindod. O dan y ddeddf honno condemniwyd Paul Best a John Bidle i farwolaeth; arbedwyd eu bywydau drwy gyfryngiad personol Oliver Cromwell. Am y Bedyddwyr, yr oedd llid Harri VIII. i'w herbyn cynddrwg a'i ddigofaint yn erbyn y Pabyddion: gwaharddodd y deyrnas iddynt, gan fygwth eu lladd os arhosent yn y wlad hon. Gan mlynedd wedi marwolaeth Harri, cyfrifid hwynt gan Buritaniaid yn "gableddus."[1] Un o gwynion Richard Baxter yn erbyn "Prawfwyr" (Triers) Cromwell, pan oeddent yn holi i fewn i gymhwysder clerigwyr, oedd eu bod yn rhy lac, ac yn "ffafru Antinomiaeth a'r Bedyddwyr."[2] Parhaodd y deddfau cosbawl yn erbyn, a'r elyniaeth tuagat, y ddau ddosbarth yma yn hwy nag at Ymneillduwyr eraill ym Mhrydain a'r Cyfandir. Yn wir yr oedd deddfau cosbawl llymion mewn grym yn Germani yn erbyn y Bedyddwyr o fewn yr haner can mlynedd diweddaf.[3] Nid lleol, ond cyffredinol oedd ysbryd anoddefiad mewn crefydd. Cariwyd ef yng nghalonnau'r Puritaniaid erlidiedig i'r America—ond methodd a gwreiddio yno. Ag eithrio'r Drefedigaeth o Fedyddwyr yn Rhode Island, eiddo'r Crynwyr ym Mhensylvania, ac eiddo'r Pabyddion yn Virginia,
- ↑ Roger Morrice's MSS., Vol. i. 157 (2).
- ↑ Baxter's Life, 72.Yn y Ddeddf yn erbyn Heresi a Chabledd, a basiwyd gan y Senedd yn 1648, cyplysir â'u gilydd y rhai a wadent athrawiaeth y Drindod a'r Iawn, y rhai a gredent athrawiaeth y Purdan, a'r rhai a ddysgent ddaliadau'r Bedyddwyr ar Fedydd.
- ↑ Yn 1852 adfywhawyd hen ddeddf a basiwyd yn 1616, yn gwahardd caniatau trigle yn Nhywysogaeth Schaumberg Lippe i unrhyw genhadwr o Fedyddiwr; os ceid neb o'r cyfryw o wlad arall yn y tir, yr oeddent i gael eu dal a'u carcharu: os ceid y trigolion yn mynychu addoliad gyda'r Bedyddwyr, yr oeddent i gael eu carcharu am fis os mai dirgel oedd y cyfarfod, neu am ddau fis os cyhoeddus ydoedd; carcherid y neb a gan—iatai i Fedyddiwr gynnal gwasanaeth crefyddol yn ei dŷ, neu a ledaenai bamffledau yn dysgu Athrawiaeth y Bedyddwyr; ac os ceid Bedyddiwr yn cyfrannu Ordinhad Swper yr Arglwydd, carcherid ef am chwe mis.Ceid cyffelyb ddeddfau mewn rhannau eraill o Germani hanner can mlynedd yn ol. Yn Saxe Meinengen teflid gwragedd, gyda babanod ychydig wythnosau oed, i garchar am fynychu cyfarfodydd gweddi'r Bedyddwyr. Cynhelid y cyfarfodydd yn yr awyr agored, yn y mynydd—dir, liw nos ac ynghanol gwlaw, er dianc sylw'r swyddogion gwladol.