y Pabyddion a'r Preladwyr o'r tu allan i gylch ei syniadau ef am oddefiad—ond ar yr un tir a Locke,[1] a Milton[2] , a hyd yn oed Jacob,—sef fod daliadau crefyddol y rhai hyn yn peryglu llywodraeth gwlad rydd. Gyda'r rhagamod hwn am y Pabyddion, dysgai Henry Jacob, yn 1609, egwyddor fawr Goddefiad Cyffredinol mewn arferion crefyddol—a danghosodd Cromwell yn ei ymddygiadau ei fod yntau wedi dysgu'r wers.
Dadleuai Leonard Busher, yn 1614, ei bod yn wrth-Gristionogol i orfodi'r deiliaid i fabwysiadu crefydd y teyrn. Yr un oedd dysgeidiaeth John Goodwin, yr hwn a ddywedai nad oedd Crist, er yn selog dros Dŷ ei Dad, erioed wedi gorchymyn gosod yr un Sadusead na Pharisead, yr un anghredwr na'r un rhyddfeddyliwr, i farwolaeth. Dadl Roger Williams oedd, y gallai'r cledd wneud cenedl o ragrithwyr a gwrth-Gristiongion, ond dim cymaint ag un Cristion: fod gorfodi dyn i dduwioldeb yn tueddi i dorri'r heddwch gwladol; ac y byddai yn llai o bechod i orfodi un i briodi lle nid oedd yn caru, na'i orfodi i addoli lle nad oedd yn credu.
Ai o herwydd eu bod wedi cael eu gwneud yn gymaint gwrthrych erlid am eu daliadau crefyddol, ai beth, sicr yw fod y Bedyddwyr ymhlith y cyntaf i ddadleu Egwyddor Goddefiad mewn crefydd. Mor foreu a 1611 gwnaed mynegiad ffurfiol a swyddogol ar ran y Bedyddwyr, o blaid Goddefiad, os nad
- ↑ Y sawl na chydnabyddant ac na ddysgant y ddyledswydd o oddef pob dynion mewn materion crefyddol yn unig, nid oes iddynt hwythau hawl i gael eu goddef."—(Locke's Works, ii. 261.)
- ↑ Wrth ddadleu na ddylid goddef Pabyddiaeth, dywed Milton:—"Nid yw namyn Tywysogaeth Rufeinig, yn ceisio dal i fyny ei hen awdurdod cyffredinol dan enw newydd, a than gysgod crefydd gatholig; mwy priodol ei galw yn heresi yn erbyn yr Ysgrythyr; cynhelir hi gan mwyaf gan awdurdod gwladol, ac, oddigerth yn Rhufain ei hun, gan awdurdod tramor; iawn, felly, yw ei drwgdybio, a iawn yw peidio ei goddef gan ynadon gwlad arall."—(Milton's Works, vol. iii. A Treatise of Civil Power in Ecclesiastical Causes, 317.)
Bedyddiwr yn Rhode Island, allan i weithrediad yr un mawrfrydigrwydd gwladol a'r un culni crefyddol. Ni fynnai gosbi neb am ei ddaliadau crefyddol; ond pan omeddodd Eglwys Salem dorri, ar ei gais ef, ei chysylltiad âg Eglwys Boston, ymneillduodd o Eglwys Salem; a gan i'w wraig wrthod dilyn ei esiampl, gwrthododd yntau na gweddio gyda hi, na gofyn bendith wrth yr un bwrdd a hi.