Rhyddid, Cydwybod. Yng Nghyffes Ffydd y Bedyddwyr a gyhoeddwyd y flwyddyn honno dywedir, "Na ddylai'r ynad ymyrryd â chrefydd, na mater cydwybod; na gorfodi dyn i'r ffurf hon neu arall o grefydd; canys Crist yw brenin a deddfroddwr yr Eglwys a'r gydwybod." Ai rhai Bedyddwyr mor bell a dweyd y dylid caniatau, nid yn unig bob dosbarth o Gristionogion, ond hefyd Iuddewon, Tyrciaid, a Phaganiaid, tra bont heddychlon, ac nad ydynt droseddwyr cyfraith.[1] Ychydig, os neb, ymhlith yr Anibynwyr, chwaethach y Presbyteriaid, a aent y pryd hynny mor bell a hyn dros ryddid cydwybod.
Pan ddown i ystyried cysylltiad yr Enwadau â'u gilydd yn y cyfnod hwn, mae'r gorchwyl yn mynd yn fwy anhawdd. Nid oedd llinellau ffin enwadol y dyddiau hynny mor glir a digamsyniol ag ydynt yn awr. Gwelwyd eisoes fod Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr wedi aros yn hir yn yr un gorlan. Cymerer hyd yn oed y Bedyddwyr. Gellid tybied y buasai afon y Bedyddiwr yn llinell ffin amlycach na chlawdd y Presbyter. Ac eto cawn (gwel tud. 71) y Bedyddiwr yn cyd-addoli, ac yn gyd-aelod yn yr un Eglwys, a'r Anibynnwr. Yn wir, prin y gellid am amser eu cyfrif yn ddau enwad o gwbl.
Ond yn unig ar gwestiwn y Bedydd, yr oedd llai o wahaniaeth rhwng Bedyddwyr ac Anibynwyr yr oes honno, nag sydd yn aml ar gwestiwn o athrawiaeth, neu hyd yn oed ffurf o wasanaeth, neu o lywodraeth Eglwysig, rhwng dwy Eglwys, neu, yn wir, aelodau yn yr un Eglwys, ymhlith yr Anibynwyr heddyw. Am y rheswm hwn cynhwysir y Bedyddwyr yn aml yn y term Anibynwyr, mewn amryw bethau a ddywedwyd eisoes yn y bennod hon. Ond tua diwedd y cyfnod dan sylw, fel yr oedd rhif yr Ymneillduwyr yn cynhyddu, a'r aelodau yn yr Eglwysi yn amlhau, tuedd naturiol y Bedyddwyr Crediniol mewn Eglwys gymysg, oedd tynnu yn nes at eu gilydd, ac ymhellach oddiwrth eu cyd-aelodau y Baban-fedyddwyr, ac o'r diwedd i ymffurfio yn Eglwys ar wahan. Ond nid oedd hyd yn oed
- ↑ Underhill's Tracts on Liberty of Conscience.