hynny yn gyffredinol. Ceir, fel y danghosir eto, enghreifftiau yng Nghymru i lawr hyd ymhell yn y ganrif ar ol yr un dan sylw, o Eglwysi oeddent weithiau yn cael eu bugeilio gan Faban-Fedyddiwr, ac ar brydiau eraill gan Fedyddiwr Crediniol; weithiau ceir dau weinidog i'r un Eglwys, y naill yn un a elwid heddyw yn Anibynnwr, a'r llall yn Fedyddiwr; ceir Eglwys a ystyrrid yn Anibynnol yn rhoi galwad i Fedyddiwr, ac Eglwys a ystyrrid yn Fedyddiedig yn rhoi galwad i Anibynnwr. Ac eto i gyd, yn nghyfnod y Stuardiaid, ceir yr ymwahaniad rhwng y ddwy aden i'r Corff Cynulleidfaol, yn dod o'r naill flwyddyn i'r llall yn amlycach, amlycach. Ac os cysylltid y ddau yn agos â'u gilydd mewn crefydd, cysylltid hwy yn agosach fyth mewn gwleidyddiaeth,—ac yn holl ymrafaelion Cromwell a'r Presbyteriaid, ceir y Bedyddiwr ochr yn ochr a'r Anibynnwr, o'r tu cefn i'r dewryn hwnnw, ymhob ymdrech dros ryddid gwladol a chrefyddol.
Dywedwyd o'r blaen (tudal. 10, 11) fod y Presbyteriaid a'r Anibynwyr ar y cyntaf mor debyg ac agos i'w gilydd, fel nas gellid yn hawdd wahaniaethu rhyngddynt. Yn nyddiau gweriniaeth Cromwell, ymbellasant oddiwrth eu gilydd. Ar ddychweliad Siarl II., ac wedi pasio Deddf Unffurfiaeth 1662, gwasgodd gormes Esgobyddiaeth hwynt yn ol i'w hen berthynas, nes yr ail-doddasant i'w gilydd mewn llawer iawn o amgylchiadau. Mor bell ag yr oedd a fynno Cymru, diflannodd Pres—byteriaeth fel enwad yn gyfangwbl; ond yr oedd y trawsnewidiad o Bresbyteriaeth i Anibyniaeth mor raddol, fel, er y gallwn gyda phriodoldeb alw Eglwys yn Bresbyteraidd mewn un cyfnod, a'r un Eglwys gyda chymaint priodoldeb yn Eglwys Anibynnol mewn cyfnod arall, amhosibl yw gosod bys ar unrhyw adeg neillduol, gan ddweyd, "Dyma'r dydd, neu'r flwyddyn, y trodd yr Eglwys hon o fod yn Bresbyteraidd i fod yn Anibynnol." Gellir dweyd yr un peth, mewn cysylltiad arall, am y cymdeithasau crefyddol hynny yn y ganrif ddilynol, a ddadblygasant ymhen amser i fod yn Eglwysi Methodistaidd.
Ond yng nghyfnod y Weriniaeth daeth y gwahaniaeth rhwng